Archesgob Cymru yn galw am atal “camdriniaeth ddiesgus” o afonydd
Mae Archesgob Cymru heddiw wedi galw am atal “camdriniaeth ddiesgus” o’n dyfrffyrdd.
Dywedodd fod afonydd yn marw wrth iddynt gael eu llygru.
Daeth sylwadau yr Archesgob Andrew John yn ystod ei Anerchiad Llywyddol i aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ar ddechrau ei gyfarfod deuddydd yng Nghasnewydd.
Bydd llygredd afonydd Cymru yn ffocws uwchgynhadledd, Adfer Afonydd Cymru, y mae’r Archesgob yn ei chynnull ym mis Tachwedd. Bydd siaradwyr allweddol yn yr uwchgynhadledd yn annerch cyfarfod y Corff Llywodraethol yfory (dydd Iau).
Dywedodd yr Archesgob Andrew, “Pam ddylem ni fod yn pryderu am ddŵr? Oherwydd fod ein hafonydd yn marw. Mae cwmnïau dŵr yn anghyfreithlon yn pwmpio carthion amrwd iddynt. A hyd yn oed wrth i rannau o’n cymunedau amaethyddol fod ar gyflog isel a heb eu gwerthfawrogi yn iawn, mae arferion ffermio dwys, a hyrwyddir gan system cynhyrchu bwyd anghynaliadwy, yn gwenwyno afonydd gyda gormod o wrteithiau a gwastraff anifeiliaid – gweler y sefyllfa drychinebus yn Nyffryn Gwy. Rydym yn cydnabod bod buddsoddiad yn digwydd i wella ein carthffosiaeth a bod gwelliannau yn cael eu gwneud. Serch hynny, rhaid i bawb ohonom – yn cynnwys y diwydiant, rheoleiddwyr, llywodraeth ac awdurdodau lleol – chwarae eu rhan wrth atal y gamdriniaeth ddiesgus yma o elfen fwyaf hanfodol bywyd. Bydd ein uwchgynhadledd yn anelu i greu consensws a momentwm dros newid.”
Rôl yr Eglwys yw siarad ar faterion o degwch a chyfiawnder, meddai.
“Wrth i ni wasanaethu’r rhai sydd o’n cwmpas, gwnawn hynny fel Cristnogion. Nid sefydliad anllywodraethol na braich o lywodraeth mohonom. Cawn ein gorfodi i godi llais ar faterion lle credwn fod rhywbeth o’i le.”
Edrychodd prif anerchiad yr Archesgob Andrew hefyd ar sut y gallai’r Eglwys yng Nghymru dyfu a ffynnu mewn tirlun ansicr.
Cawn ein gorfodi i godi llais ar faterion lle credwn fod rhywbeth o’i le
Soniodd am egwyddorion a amlinellir gan yr Athro John Kay a’r Arglwydd Mervyn King yn eu llyfr, Radical Uncertainty, am ddyfodol yr Eglwys.
Canmolodd yr Archesgob rôl yr Eglwys mewn digwyddiadau cenedlaethol a thalodd deyrnged i waith clerigwyr a gweinidogion lleyg.
Dywedodd, “Wythnos ar ôl wythnos, nid y digwyddiadau arloesol sy’n llunio hunaniaeth cenedl. Digwyddiadau bywyd a sut mae eraill yn ein cefnogi a’n helpu drwyddynt fydd yn gwneud hynny. Bydd pawb ohonom yn dioddef cyfnodau o alar a thorcalon a phan fyddwn yn meddwl amdanynt byddwn yn cofio’r rhai a ddangosodd garedigrwydd, cariad a thrugaredd. Yn ei gweinidogaeth hebryngol, dengys yr Eglwys yng Nghymru fod Duw yn caru’r byd ac yn ymestyn drwyddom gyda gras trawsnewidiol yn yr Iesu.”
I’r Eglwys ffynnu, mae angen iddi ddatblygu a thyfu, meddai’r Archesgob Andrew. Mae hynny’n golygu addasu i newid a dysgu o brofiadau ein gilydd.
Byddai newid yn canolbwyntio ar weithredu Ardaloedd Gweinidogaeth a Chenhadaeth – yr unedau daearyddol mwy sydd bellach yn brif grwpiau lleol yr Eglwys. Mae gwersi pwysig yn dod i’r amlwg ohonynt, tebyg i’w potensial am gyrraedd ehangach a phrosiectau mwy, gweithio tîm i fanteisio i’r eithaf ar weinidogaeth pawb, nid dim ond y clerigwyr, a’u dewrder wrth gymryd risigau a bod yn barod i wneud camgymeriadau.
Wrth gyfeirio at y polisi o wneud buddsoddiadau sylweddol i dyfu’r Eglwys, dywedodd yr Archesgob Andrew, “Mae gennym gyfle i ddatblygu gweinidogaeth o sylfaen profiad bywyd,” meddai’r Archesgob Andrew. “Dengys ceisiadau cynnar i Gronfa Twf yr Eglwys fod esgobaethau yn adeiladu ar yr hyn a gaiff ei ddysgu drwy ein Hardaloedd Gweinidogaeth a Chenhadaeth p’un ai drwy ddatblygu eglwysi hyb, plannu cynulleidfaoedd newydd neu benodi arloeswyr a chaplaniaid.”
Roedd casglu a dadansoddi data mewn meysydd yn cynnwys buddsoddiad, aelodaeth ac allyriadau carbon, yn agwedd bwysig arall o dwf, meddai. Roedd hefyd am fod yn chwilfrydig ac yn barod i esblygu.
Caiff y math o fywyd sy’n dod â gobaith ei adeiladu un cam ar y tro
Fodd bynnag, nid yw dychmygu dyfodol da ar gyfer yr eglwys yn ymwneud ag adeiladu “breuddwydion amhosibl”, meddai’r Archesgob Andrew.
“Gall unrhyw un gyflwyno gweledigaeth sydd yn hollol lledrithiol, sy’n swnio’n drawiadol ond sydd yn ffantasi. Caiff y math o fywyd sy’n dod â gobaith ei adeiladu un cam ar y tro; myfyrio ffyddlon ar ein cyd-destunau, gofyn cwestiynau da a dechrau cynllunio ac ymarfer y pethau sy’n ein galluogi i fod yn driw i’n galwedigaeth.”
Fodd bynnag, daeth yr Archesgob i ben drwy ddweud mai’r rhan bwysicaf o strategaeth yr Eglwys oedd ei gweddigarwch a rhannu ffydd yng Nghrist. Dywedodd fod angen i eglwysi iach fod yn “gadarn yn y disgyblaethau ysbrydol hynafol”. Soniodd am gyfres Pilgrimage ddiweddaraf y BBC, sy’n dilyn enwogion ar Lwybr Pererinion Gogledd Cymru, fel enghraifft o ddiddordeb o’r newydd mewn ysbrydoleb.
“Mae angen i ni roi ein hunain yn gyson i gariad ac ymarfer Iesu Grist, gan ddod yn bobl ddilys, maddeugar a gobeithiol gyda rhywbeth sy’n werth ei rannu.”
Anerchiad Llywyddol, Archesgob Cymru
Lawrlwythwch ymaMae’r Corff Llywodraethol yn cwrdd yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd ar 17 a 18 Ebrill.
Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yn a sianel YouTube
Am 10am fore dydd Iau bydd James Wallace, Prif Swyddog Gweithredol River Action a Dr Christian Dunn, Cyfarwyddwr Cyswllt Grŵp Gwlypdiroedd Bangor, Prifysgol Bangor, ill dau yn rhoi cyflwyniad ar eu gwaith ac yn amlinellu maint yr argyfwng afonydd fel y gwelant ef.