Archesgob yn galw ar Eglwys Rwsia i gondemnio rhyfel Wcráin
Mae Archesgob Cymru wedi galw ar Eglwys Uniongred Rwsia i gondemnio’r rhyfel yn Wcráin mewn araith allweddol heddiw (27 Ebrill).
Dywedodd yr Archesgob Andrew John fod ymosodiad diachos Rwsia yn “arswydus” a chefnogodd alwadau i eglwys Rwsia gondemnio lladd sifiliaid, pwyso am ddod â’r saethu i ben ar unwaith a mynnu diwedd i’r rhyfel.
Wrth annerch aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys ar ddechrau ei gyfarfod deuddydd heddiw, dywedodd yr Archesgob Andrew, “Pan nad yw’r eglwys yn gweithredu dros heddwch, pan nad yw’n amddiffyn y tlawd, pan mae’n methu codi llais yn erbyn anghyfiawnder, nid oes ganddi hawl i ddweud dim am efengyl ein Harglwydd Iesu Grist. Mae’n colli’r fraint honno ac yn ymadael â’i galwad. Mae angen i ni glywed y neges hon ein hunain yn ogystal â’i chyfleu i frodyr a chwiorydd mewn mannau eraill.”
Dywedodd yr Archesgob ein bod yn byw mewn “cyfnod heriol” a bod hyn yn cynnwys yr adferiad parhaus o bandemig Covid. Rhybuddiodd na chafodd effaith y pandemig ei sylweddoli’n llawn eto. Dywedodd, “Mae’n wir ein bod wedi gweld diwedd llawer o gyfyngiadau; nid ydym hyd yma yn gweld absenoldeb yr haint. Ac ar gyfer y rhai a gollodd anwyliaid, gellir clywed siarad am ‘ôl-pandemig’ fel gwahoddiad i ddechrau ar daith nad ydynt yn barod amdani hyd yma. Nid ydynt hyd yma wedi dod i delerau â’u colledion. Nid yw’n glir hyd yma yn union beth fydd effaith gorfforaethol a chenedlaethol y pandemig.”
Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dangos pa mor bwysig yw ffydd i bobl, meddai’r Archesgob Andrew, a chanmolodd gymunedau’r eglwys am eu hymateb cyflym a chwim i’r pandemig. Dywedodd fod yr eglwys wedi “ailganfod ei llais”.
Dywedodd, “Mae ffydd yn bwysig – yn bwysig iawn. Yng nghyd-destun sicrwydd enfawr, canfu llawer fod eu ffydd yng Nghrist yn ffynhonnell barhaus o gefnogaeth a llawenydd. A phan fedrwyd agor a hefyd fynd i mewn i adeiladau, bu’n ddiddorol gweld y niferoedd oedd yn cofrestru eu presenoldeb ac yn aml yn ysgrifennu gweddïau.
“Rwy’n credu i ni hefyd ddarganfod fod perthyn yn werthfawr, ac er ein bod weithiau wedi meddwl amdanom ein hunain fel llong enfawr ar y môr(yn sefydlog ond yn anhylaw), fe wnaethom ddarganfod ein bod yn ysgafnach ar ein traed nag y tybiem. Daeth gwasanaethau ar-lein yn arferol yn gyflym iawn. Beth oedd yn fwyaf arwyddocaol oedd y nifer a rannodd. Pam? Oherwydd fod perthyn yn bwysig ac mae ein cymdeithas fel Cristnogion yn bwysig tu hwnt. Credaf i ni hefyd weld enghreifftiau o eglwys yn ailddarganfod ei llais. Nid yr eglwys oedd yr unig gorff i ymateb gyda gwasanaeth cariadus. Ond roedden ni yno hefyd – yn gofalu, yn cynnal gwasanaethau digwyddiadau bywyd mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn weithiau, yn cynnig ein hadeiladau i’w defnyddio fel canolfannau brechu, helpu’r llywodraeth i ysgrifennu canllawiau ar gyfer cymunedau ffydd. Pan ddangoswn, mewn ffyrdd ymarferol, ein cariad at y byd, rydym yn dangos cariad Duw at yr holl greadigaeth.
“Credaf y dylem gymryd pleser a llawenydd gwirioneddol yn y ffordd y gwnaethom ymateb. Ni wnaethom gerdded i ffwrdd o’r heriau, fe wnaethom symud tuag atynt, eu cofleidio ac ymateb iddynt.”
Edrych ymlaen
Wrth edrych i’r dyfodol, dywedodd yr Archesgob Andrew fod mwy o heriau i’r Eglwys ac amlinellodd gynigion mentrus ac uchelgeisiol ar gyfer y degawd nesaf er mwyn eu cyflawni.
“Ein ffocws yw’r Eglwys yng Nghymru yn 2032 – yr Eglwys y dymunwn ei chyflwyno i’n hwyrion a’u plant hwythau,” meddai.
Y flaenoriaeth fyddai disgyblaeth ac efengyliaeth a byddai buddsoddiad ‘newydd a sylweddol” o gronfeydd canolog, a gyflwynir mewn ffordd fyddai’n galluogi esgobaethau i drefnu eu cyllidebau gyda mwy o sicrwydd.
“Yng nghyswllt efengyliaeth, cawsom ein bendithio gan y prosiectau a sefydlwyd yn yr esgobaethau a ddangosodd i ni y gallwn wneud ‘eglwys’ yn wahanol. Gwelsom ddychymyg a chreadigrwydd sy’n wirioneddol wedi torri tir newydd. Gydag eglwysi blaengar llai yn dod i’r amlwg, rydym wedi darganfod ffordd o ddweud stori lawen cariad Crist wrth genhedlaeth goll.”
Byddai hefyd fuddsoddiad mewn cefnogaeth a hyfforddiant ar gyfer Ardaloedd Cenhadaeth a Gweinidogaeth, meddai’r Archesgob Andrew.
“Mae buddsoddiad newydd mewn hyfforddiant, yn arbennig yn Sefydliad Padarn Sant, yn ein galluogi i ymgorffori’r newidiadau yr ydym eisoes yn gweithio arnynt ond mae hefyd yn cyfrif fel ymyriad sylweddol a gynlluniwyd i ddarparu sgiliau’r 21ain Ganrif i eglwys 21ain Ganrif fel bod y ffydd Gatholig hynafol yn curo o’n mewn gydag egni newydd.”
Cydnabu’r Archesgob Andrew yr her a achosir gan adeiladau eglwysig, yn cynnwys gostwng eu ôl-troed carbon, a galwodd am strategaeth sy’n “anelu i reoli’r adeiladau sydd gennym, buddsoddi yn y rhai rydym eu hangen a chanfod dibenion da ar gyfer y rhai nad ydym eu hangen.”
Mae’r esgobion hefyd yn ymchwilio ffyrdd o gydweithio mwy ar gyfer yr eglwys gyfan, yn hytrach nag ar gyfer eu hesgobaeth eu hunain. Edrychir ar y strwythurau presennol i weld os oeddent yn galluogi cyflawni nodau uchelgeisiol.
“Mae gweledigaeth heb le i lanio naill ai’n diflannu i’r ether neu’n waeth, mae’n syrthio ac yn achosi mwy o ddrwg nag o dda. Nid oes gan neb ddiddordeb mewn symud cadeiriau ar y dec.”
Daeth yr Archesgob i ben drwy ddweud, “Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi dangos y gall ymateb i’r heriau mwyaf, ei bod yn parhau’n angerddol am ei neges a’i Hiachawdwr a bod y dewrder hwnnw – troi gobeithion dewr yn weithredoedd cadarn – o fewn ein cyrraedd. Os gwnawn hyn, byddwn yn darganfod o’r newydd yr hyn y mae’n olygu ei fod yr Eglwys. Yr Eglwys yng Nghymru”.
Anerchiad Llywyddol llawn yr Archesgob Andrew
- Mae’r Corff Llywodraethol yn cyfarfod ar 27-28 Ebrill yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru. Mae’r cyfarfod yn dechrau am 9.30am a chaiff ei ffrydio’n fyw yma.
- Mwy o wybodaeth am y cyfarfod