Archesgob yn galw am gefnogaeth frys i apêl argyfwng Wcráin
Mae Archesgob Cymru yn galw am gefnogaeth frys i apêl argyfwng Cymorth Cristnogol ar gyfer Wcráin.
Mae’r elusen Gristnogol yn gweithio gyda’i phartneriaid i ddosbarthu bwyd a hanfodion eraill i achub bywyd pobl ar ffiniau Wcráin sy’n ffoi rhag trais marwol. Mae hefyd yn galw ar bobl i ychwanegu eu lleisiau at ddeiseb change.org a lansiwyd gan aelod Together With Refugees, Freedom From Torture sy’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cefnogaeth ddyngarol i bobl Wcráin.
Hyd yma, cafodd 102 o sifiliaid eu lladd gyda 406 arall wedi eu hanafu – a gallai’r gwir ffigurau fod yn llawer uwch. Mae hanner miliwn o bobl wedi ffoi o’r wlad yn y dyddiau diwethaf a bu’n rhaid i lawer mwy adael eu cartrefi i ddianc rhag yr ymladd.
Dywedodd yr Archesgob, Andrew John, “Mae ymosodiad didrugaredd Rwsia ar Wcráin wedi dychryn ac arswydo pawb ohonom. Mae argyfwng dyngarol yn datblygu’n gyflym wrth i bobl ffoi am eu bywydau ac mae’n rhaid i ni ymateb yn gyflym i helpu. Rwyf yn galw ar ein heglwysi a chymunedau yng Nghymru i gyfrannu’n hael at apêl Cymorth Cristnogol a llofnodi y deiseb i’r Llywodraeth y Deyrnas Unedig wneud mwy i helpu ffoaduriaid.
“Mae’n rhaid i ni hefyd barhau i weddïo dros Wcráin a’i holl bobl yn y cyfnod ofnadwy hwn”.
Dywedodd Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, “Yn ngoleuni’r digwyddiadau trychinebus yn Wcráin, mae Cymorth Cristnogol wedi lansio apêl i gefnogi’r rhai sy’n ffoi rhag trais marwol. Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau partner yng Nghynghrair ACT i gynnig cymorth dyngarol cyflym i bobl Wcráin. Hyd yma, mae dau o bartneriaid ACT wedi dosbarthu 28 tunnell fetrig o gyflenwadau bwyd hanfodion eraill achub bywyd i bobl ar ffiniau Wcráin. Yn yr amser tywyll a phryderus hwn i bobl Wcráin a thros bawb sy’n credu mewn heddwch, gallwn ymuno gyda’n gilydd i roi, gweithredu a gweddïo.”
Apêl Argyfwng Wcráin
Cyfrannwch nawr