Archesgob yn annog llywodraeth y DG i beidio â thorri cymorth
Mae Archesgob Cymru, John Davies, ynghyd ag elusen cymorth ryngwladol Cymorth Cristnogol, wedi galw ar lywodraeth y DG i beidio mynd ymlaen gyda’r toriad i gymorth yn Ne Swdan.
Wrth wneud sylw ar ddatganiad ar y cyd gan sawl sefydliad anllywodraethol sy’n gweithio yn y wlad am y toriadau, meddai’r Archesgob, "Rwy’n annog llywodraeth y DG yn gryf i roi’r gorau i’r toriadau hyn a thoriadau eraill i’r gyllideb cymorth rhyngwladol. Byddant yn gwneud drwg mawr i gymunedau tlotaf y byd. Yn Ne Swdan yn benodol, gallai’r toriad hwn olygu fod y wlad yn disgyn i argyfwng dwfn."
Roedd yr Archesgob yn gwneud sylw ar ddatganiad gan sefydliadau anllywodraethol sy’n gweithio yn Ne Swdan oedd yn dweud fod dros 60% o boblogaeth y wlad yn wynebu anniogelwch bwyd. Mae rhai rhanbarthau yn y wlad wedi eu gosod yng nghategori ‘Newyn yn Debygol’ o dan broses Categoreiddio Diogelwch Bwyd Integredig. Adroddir fod toriad cyllideb y DG i gymorth i Dde Swdan yn 59%.
Ychwanegodd yr Archesgob, "Trwy ein Hapêl y Canmlwyddiant, rydym ni yng Nghymru yn sefyll gyda’n brodyr a’n chwiorydd yn Ne Swdan. Rwy’n annog i lywodraeth Prydain wneud yr un fath. Rwy’n deall yr angen am gyfrifoldeb cyllidol, ond mae’r toriadau hyn yn rhai anghywir, ar yr adeg anghywir, am y rhesymau anghywir. Boed hynny yn ddiofal neu’n fwriadol, bydd y toriadau hyn yn niweidio pobl fregus.
Rhaid inni beidio â chael trefn ar ein harian ar gefn y tlotaf yn ein byd. Yn enw popeth sy’n dda, Brif Weinidog, peidiwch â gwneud y toriadau hyn os gwelwch yn dda."
Yn eu datganiad, mae’r sefydliadau anllywodraethol yn dweud: ‘Nid oes fawr o amheuaeth na fydd y toriadau hyn yn arwain at golli bywydau, ac yn tanseilio’r cynnydd tymor hir a wnaed gyda gwariant y DG hyd yma.’
Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Gweithredol Cymorth Cristnogol, "Mae De Swdan mewn cyflwr bregus iawn. Mae anniogelwch bwyd wedi gwaethygu am resymau fel llifogydd, dadleoli pobl ac anghydfod hir dymor. Mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn gweithio’n galed ar y ddaear i helpu ond mae’n sefyllfa druenus.
"Trwy ei Hapêl y Canmlwyddiant, mae’r Eglwys yng Nghymru’n cefnogi un o’n partneriaid yno yn ei ymdrechion i adeiladu a chadw heddwch. Mae anghydfod yn gwneud tlodi’n waeth ac yn bygwth unrhyw gynnydd a wneir trwy waith datblygu. Bydd Cymorth Cristnogol yn parhau i weithio gyda’i bartneriaid yn Ne Swdan ond bydd y toriadau hyn i gymorth yn gwneud ein gwaith yn llawer mwy anodd.
Apêl Canmlwyddiant
Rhoi nawr