Archesgob yn galw am heddwch
Mae Archesgob Cymru, John Davies, yn galw am i 'bwyll a doethineb' ennill y dydd wrth i densiynau gynyddu rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran.
Dywedodd yr Archesgob John:
"Ar adeg pan mae'r byd Cristnogol yn parhau i ddathlu geni Tywysog Tangnefedd, y Cynghorydd Gwych, mae'n rhaid i bawb ohonom edrych gydag ymdeimlad o beth braw ar y cynnydd mewn tensiynau rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran. Mae'r gweithredu diweddar ar ran yr Unol Daleithiau a gymerwyd, byddai'n ymddangos, heb unrhyw ymgynghoriad gyda'i chynghreiriaid agosaf, wedi codi lefel perygl yn sylweddol, ac mae'r ymateb wedi dechrau. Mae'n iawn bod arweinwyr cenhedloedd y byd o galon dda a meddwl pwyllog yn cynghori gofal a doethineb. Rwy'n annog llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y sylwadau cryfaf y dylai pwyll a doethineb o'r fath ennill y dydd yn achos heddwch y daeth Crist ef ac y mae gan y byd, mewn cynifer o leoedd, angen mor ddybryd amdano."