Archesgob yn dathlu pen-blwydd yr eglwys gyntaf
Eglwys a adeiladwyd ar gyfer pentref glofaol newydd oedd y gyntaf yn yr Eglwys yng Nghymru ar ôl ei ffurfio a’r mis hwn mae’n dathlu ei phen-blwydd yn 95 oed.
Agorwyd Eglwys Martin Sant, Llai, bum mlynedd ar ôl datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru sy’n nodi ei chanmlwyddiant eleni. Fe’i hadeiladwyd ar gyfer glowyr yng nglofa newydd Llai a’u teuluoedd ac fe’i disgrifiwyd mewn adroddiad papur newydd ar y pryd fel “tystiolaeth galonnog o ddewrder a bywiogrwydd yr Eglwys yng Nghymru”.
Cysegrwyd yr eglwys newydd gan Archesgob cyntaf Cymru, Alfred George Edwards, ar 21 Chwefror 1925 a’r mis hwn, bydd ei olynydd, yr Archesgob Cymru presennol, John Davies, yn arwain gwasanaeth diolchgarwch ac ail-gysegriad ar ddechrau penwythnos o ddathlu i’r gymuned gyfan.
Dywed y Parch Huw Butler, Ficer Llai, “Mae’r flwyddyn 2020 yn arwyddocaol iawn gan ei bod yn nodi canmlwyddiant pentref Llai a’r Eglwys yng Nghymru. Ffurfiwyd Cymdeithas Tai Llai yn 1920 i oruchwylio’r gwaith o greu’r pentref trwy adeiladu 200 o dai i lowyr. Yn ystod yr un flwyddyn datgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Lloegr gan ddod yn dalaith ei hun yn y Cymundeb Anglicanaidd byd-eang. Gan Eglwys Martin Sant, Llai, y mae’r anrhydedd o fod yr eglwys newydd gyntaf yng Nghymru i gael ei chysegru ar ôl y datgysylltu.”
Cofnodwyd agor yr eglwys newydd yn 1925 gan bapur y Church Times:
“Cheering evidence of the courage and vitality of the Church in Wales is to be found in the way in which it has met the spiritual needs of the great new colliery district that has lately sprung up at Llay near Wrexham…Ever since the coming of the ‘sinkers’ in 1915 the Church has literally been on the spot making such provision as was possible for this new flock. Now as the result of courage and persistency worthy of all praise her efforts have culminated in the spacious and beautiful church of St. Martin. The site, an admirable one in the centre of the village, was given by the Industrial Housing Association and upon it an eminently satisfactory church has been put up from the designs of R.T. Beckett of Mold.”
Yn ei bregeth ar ddiwrnod cysegru Eglwys Martin Sant, dywedodd Archesgob cyntaf Cymru ac Esgob Llanelwy, Alfred George Edwards, bod adeiladu Eglwys Martin Sant yn “arwydd tawel ond huawdl o ddewrder, rhagwelediad, gweledigaeth a haelioni. Mewn gwlad ar ddiwedd y rhyfel mwyaf yn ei hanes, ei harcholl yn dal i waedu, ei hadnoddau bron â dod i ben, roedd angen calon ddewr i feddwl, cynllunio a mentro i adeiladu yr Eglwys newydd. Mae’r eglwys ei hun yn wir yn adeilad hardd, ac...felly gall gymryd ei lle heddiw ymhlith y nifer o eglwysi hardd yn yr archesgob.”
Diwrnod y cysegru (yr Archesgob Edwards gyda Maer Wrecsam, y Ficer, Warden yr Eglwys a’r cofrestrydd)
Ychwanegodd Mr Butler, “Dros y 100 mlynedd diwethaf gwelwyd llawer o enghreifftiau o ddewrder, rhagwelediad, gweledigaeth a haelioni ym mywyd yr eglwys hon a’r gymuned ehangach. Oherwydd natur gyfnewidiol y gymdeithas a’r eglwys mae’r rhain yn werthoedd y byddwn yn gwneud yn dda i’w cynnal wrth symud tua’r dyfodol. Wrth i ni ddathlu'r canmlwyddiant dwbl yn y pentref hwn, Llai a’r Eglwys yng Nghymru, rydym yn gobeithio bod ein cymuned sy’n newid ac yn tyfu yn barhaus yn cynnal etifeddiaeth y rhinweddau hyn, nid yn unig trwy harddwch brics a morter, ond wrth adeiladu a meithrin cymuned iach yn gorfforol, cymdeithasol, meddyliol ac ysbrydol.”
Eglwys Martin Sant heddiw: https://www.facebook.com/St.Martin.Church.Llay/videos/310034566250841/
Amserlen y dathliadau
Bydd yr Archesgob John Davies yn arwain y gwasanaeth diolch ac ail-gysegru yn Eglwys Martin Sant, ar ddydd Gwener, 21 Chwefror am 7pm sydd yn agored i bawb. Dilynir hyn gan ddigwyddiad cymdeithasol yn Sefydliad Lles Glowyr Llai.
Cynhelir diwrnod agored gan yr Eglwys ar ddydd Sadwrn, 22 Chwefror rhwng 10am-4pm, lle bydd arddangosfeydd a chrefftau yn ymwneud â hanes y pentref.
Bydd Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, yn arwain gwasanaeth i ddathlu ac ail-gysegru yn Eglwys Martin Sant ar ddydd Sul, 23 Chwefror, am 10.30am, ac mae croeso i bawb.
Gwahoddir plant hefyd i gymryd rhan yn y dathliadau. Ar ddydd Mercher, 19 Chwefror, mae’r eglwys yn cynnal diwrnod “Cael Profiad o Eglwys Martin Sant” pan fydd stori Martin Sant yn cael ei hadrodd mewn modd dychmygus ac y bydd deunyddiau yn cael eu cynhyrchu ar gyfer y dathliadau. Bydd yn digwydd rhwng 11am a 3pm.
Yn y cyfamser, mae’r pentrefwyr yn creu coeden a wnaed o brintiau llaw yn y llyfrgell yng Nghanolfan Adnoddau Llai fydd yn cael ei harddangos yn yr eglwys.
Cenhadaeth curad
Gan fod Eglwys Martin Sant yn dal yn gymharol ifanc, a bod iddi le mor bwysig yng nghalonnau a meddyliau pobl Llai, mae ei dechreuadau yn dal yn rhan o gof byw'r pentref. Un yr oedd parch mawr iddo oedd y Parch Bransby Jones (yn y llun), curad Gresffordd ac offeiriad cyntaf yr eglwys.
Yma mae’r Tad Dominic Cawdell, curad Llai, yn amlinellu hanes yr eglwys a’i dyheadau at y dyfodol.
Pan gyrhaeddodd y glowyr cyntaf tua 1916, adeiladwyd pentref ‘model’ o gwmpas y siopau, ysgol fechan, bywyd yr eglwys a’r capel Methodistaidd. Ar y dechrau roedd yno eglwys genhadol fechan oedd yn cyfarfod mewn tŷ ac yn cael ei harwain gan leygwr. Roedd wedi bod yn genhadwr yn y llynges a daeth yn un o’r cenhadon glofaol cyntaf.
Ar y dechrau roedd Llai yn rhan o Blwyf Gresffordd ond wrth i’r gymuned a’r eglwys dyfu daeth yn blwyf ar ei ben ei hun. Does fawr o bobl yn cofio’r gymuned genhadol, ond mae rhai sy’n cofio’r eglwys yn ei dyddiau cynnar iawn, ac yn cofio’r curad yn dod ar ei feic o Gresffordd i arwain yr addoliad yn yr eglwys newydd yma a’r cyffro o gael yr eglwys newydd hardd yma yn 1925.
Mae hyn yn rhoi parhad gwych i ni: ymdeimlad gwirioneddol bod y ffydd wedi cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Ond efallai mai’r peth mwyaf defnyddiol yw bod y chwedlau hynny a all dyfu a datblygu ym mywyd yr eglwys yn cael eu chwalu yn gyflym – fel y syniad bod yr Ysgol Sul yn arfer bod yn llawn i’r ymylon neu bod y côr yn arfer bod â channoedd o leisiau a’u bod yn canu fel Côr y Capel Sistinaidd. Nid yw chwedlau o’r fath yn cael datblygu yn Eglwys Martin Sant oherwydd mae rhywun yn y cefn o hyd yn cofio fel yr oedd hi go iawn.
Mae ymdeimlad gwirioneddol o deulu yma. Pan fydd un unigolyn yn dioddef, mae pawb yn ei deimlo. Maent yn ymweld â’i gilydd, yn caru ei gilydd ac yn gofalu am ei gilydd mewn modd sy’n golygu bod pobl yn dod ataf i ddweud mae hwn yn ail deulu i mi.
Mae Llai yn dymuno i’r ficer a chymuned yr eglwys fod yn lle i fynegi ei hanes ei hun. Fel rhan o’n dathliadau rydym wedi comisiynu darn o gelf yn seiliedig ar goeden, lle mae plant ac oedolion y pentref yn cyfrannu eu printiau llaw fel dail y goeden. Mae’r goeden wedi bod yn symbol o Llai ar hyd y blynyddoedd; dyna yw symbol ein hysgol, ond hefyd, wrth gwrs, mae iddo themâu beiblaidd cyfoethog fel coeden bywyd, y mae ei dail ar gyfer gwella’r cenhedloedd. Bydd hyn yn dod ag ymdeimlad mai’r eglwys yw’r lle i’r pentref adrodd ei stori a bod y stori honno wedi ei phlethu â stori fwy ein hachubiaeth.
Mae datblygiad tai newydd anferth yn cael ei adeiladu a fydd yn dod â 400 o gartrefi newydd i Llai sy’n gyffrous. Fe fydd yn newid deinameg y pentref yn fawr iawn gan y bydd y rhai sy’n byw yn yr hen rannau o’r pentref, hen dai’r lofa, y tai cyngor gwreiddiol, yn lleiafrif gyda’r stadau newydd yn cael eu hadeiladu ar dir o gwmpas Ffordd Gresffordd. Y pwynt cyntaf fydd gwneud i bobl deimlo bod croeso iddynt i’n pentref ac nad dim ond rhan o Gresffordd neu yr Orsedd yw Llai. Mae dyhead yn Martin Sant i ddenu pobl i fywyd cymuned yr eglwys, i fywyd y ffydd.
Rwyf wrth fy modd â’r ffaith ein bod yn addoli mewn eglwys a sefydlwyd gan gurad oedd wedi cyffroi am Iesu a chyffroi am ddod â’r Efengyl i’r stad newydd hon, y pentref ‘model’ newydd hwn. Ac felly rwy’n teimlo, fel curad heddiw, bod traddodiad yma yr wyf yn mwynhau ei rannu!