Archesgob yn llongyfarch Eluned Morgan
Mae Archesgob Cymru yn llongyfarch Eluned Morgan wrth iddi baratoi i ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, unwaith derbynnir sêl bendith y Senedd. Mae’r Archesgob Andrew John yn ei sicrhau hi, a phawb mewn bywyd cyhoeddus, o weddïau a chymorth ymarferol yr Eglwys. Mae ei ddatganiad llawn yn dilyn.
Datganiad yr Archesgob
Anfonaf longyfarchiadau gwresog ar ran yr Eglwys yng Nghymru at Eluned Morgan y disgwylir iddi ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, unwaith derbynnir sêl bendith y Senedd. Fel Cristnogion, rydym yn ei sicrhau hi, Llywodraeth Cymru a phawb sy’n cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, beth bynnag fo’u plaid wleidyddol, o’n gweddïau parhaus a’n cefnogaeth ymarferol wrth iddynt geisio mynd i’r afael â’r heriau niferus sy’n ein hwynebu ac wrth iddynt wweithio tuag at greu cymdeithas gyfiawn a hael.