Archesgob yn llongyfarch arweinydd newydd Llafur Cymru
Y mae Archesgob Cymru, Andrew John, wedi llongyfarch Vaughan Gething ar ennill arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Dywedodd yr Archesgob: "Ar ran yr Eglwys yng Nghymru, rwy'n llongyfarch Vaughan Gething yn wresog wrth iddo gael ei ethol. Y mae Cymru yn wynebu llawer her, ac, fel Cristnogion, rydym yn sicrhau Mr Gething, a phawb sydd yn ceisio gwneud gwahaniaeth mewn bywyd cyhoeddus, beth bynnag fo'u plaid, o'n gweddiau a'n cymorth ymarferol.”