Archesgob yn cymeradwyo cwrs y Grawys Iddewig-Gristnogol
Mae Archesgob Cymru wedi cymeradwyo cwrs Grawys newydd sbon a fydd yn taflu goleuni ar wead cyfoethog y Gydberthynas Iddewig-Gristnogol. Mae cwrs y Grawys, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a’r Cyngor Cristnogion ac Iddewon, yn cynnig cyfle unigryw i archwilio’r gydberthynas ddwys, brydferth a chymhleth rhwng Cristnogaeth ac Iddewiaeth.
Yn dwyn y teitl "Rydych chi’n cofio’ch cyfamod am byth" - Dirnad llwybr ar gyfer cydberthynas Cristnogol-Iddewig, bydd y cwrs ar-lein tair rhan yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Chwefror, 6 Mawrth, a 20 Mawrth am 6:00pm.
Bydd pob sesiwn astudio yn dyfnhau dealltwriaeth o Iddewiaeth, yn addysgu cyfranogwyr am enghreifftiau hanesyddol o wrth-Iddewiaeth Gristnogol, ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol sydd wedi’i ddynodi gan gydweithredu rhyng-ffydd ffrwythlon. Mae’r amseru’n ingol, o ystyried bod yr Wythnos Sanctaidd, yn hanesyddol, wedi gweld cynnydd yn yr elyniaeth tuag at Iddewiaeth.
Mae cydweithrediad y Gadeirlan â’r Cyngor Cristnogion ac Iddewon yn dyst i ymrwymiad y ddau sefydliad i feithrin dealltwriaeth, deialog, a goddefgarwch rhwng y cymunedau Cristnogol ac Iddewig. Mae’r Cyngor wedi bod ar y blaen o ran hwyluso rhyngweithio ystyrlon, rhannu syniadau, a chyfrannu at ddatblygu cymdeithas gryfach a mwy goddefgar.
Mae angen dybryd ar ein byd drylliedig, llawn poen i gymodi ac ar gyfer iachâd ar draws ffiniau hynafol
Gan gymeradwyo cwrs astudio’r Grawys, dywedodd Archesgob Cymru, "Mae angen dybryd ar ein byd drylliedig, llawn poen i gymodi ac ar gyfer iachâd ar draws ffiniau hynafol. Gall pob un ohonom chwarae ein rhan ein hun trwy ennill dealltwriaeth ddyfnach o’n hanes, ein diwinyddiaeth a’n cymdogion.
"Rydw i eisiau cymeradwyo’r bartneriaeth rhwng Cadeirlan Deiniol Sant a’r Cyngor Cristnogion ac Iddewon, a’ch annog i gymryd rhan wrth astudio, myfyrio a gweddïo aer mwyn cymodi ac iacháu y Grawys hwn."
Bydd pob sesiwn yn cael ei harwain gan ddau siaradwr nodedig o dîm cenedlaethol y Cyngor Cristnogion ac Iddewon, Avigail Simmonds-Rosten a Dr James Roberts, sy’n dod â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd i gyfoethogi’r gwaith o archwilio’r cydberthynas rhwng Cristnogaeth ac Iddewiaeth.
Mae Dr James Roberts yn dweud ‘Rwy’n falch iawn o fod yn teithio drwy’r Grawys gyda Chadeirlan Deiniol Sant, i archwilio’r gydberthynas gymhleth a sanctaidd rhwng Cristnogaeth ac Iddewiaeth. Mae’r Grawys yn amser ingol i Gristnogion fyfyrio ar y gydberthynas hon. Dan gysgod canrifoedd o wrth-Iddewiaeth (sydd wedi codi ei ben mor aml yn ystod yr Wythnos Sanctaidd ac o’i chwmpas), mae’r Grawys yn amser i Gristnogion fyfyrio a chreu ffyrdd newydd o symud ymlaen gyda’i gilydd.
"Rwy’n ddiolchgar iawn i Gadeirlan Deiniol Sant am y cyfle hwn ar hyn o bryd, ar adeg pan fo taer angen addysg a chyfeillgarwch rhyng-ffydd."
Mae Cadeirlan Deiniol Sant a’r Cyngor Cristnogion ac Iddewon yn estyn gwahoddiad cynnes i bob unigolyn sydd â diddordeb mewn dyfnhau eu dealltwriaeth o’r ddau draddodiad ffydd hyn a meithrin cydweithio rhyng-ffydd.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan Cadeirlan Deiniol Sant