Archesgob yn anrhydeddu staff Cenedlaethol
Bydd tri aelod o staff yr Eglwys yng Nghymru sydd â chyfrifoldebau cenedlaethol yn derbyn anrhydedd daleithiol gan Archesgob Cymru. Byddant yn dod yn Ganonau Archesgobol.
Penodir Canonau Archesgobol gan yr Archesgob, ar ôl ymgynghori gyda’r esgobion eraill, ar ran y Dalaith i gydnabod rolau taleithiol y rhai sy’n derbyn y teitl. Mae’n deitl mygedol a dim ond yn ddiweddar y cafodd ei ymestyn i gynnwys lleygwyr. Yn wahanol i ganonaethau eraill, nid oes gan ganonau archesgobol sedd yn unrhyw un o gadeirlannau Cymru ac nid ydynt yn aelod o Gabidwl unrhyw gadeirlan.
Dywedodd yr Archesgob Andrew John, “Rwy’n hynod falch i roi’r anrhydeddau hyn. Mae penodi unrhyw unigolyn yn Ganon Archesgobol yn dangos fod ganddynt sefyllfa bwysig neu’n ymwneud â rôl hanfodol ym mywyd a thystiolaeth yr Eglwys yng Nghymru. Mae’n gydnabyddiaeth sylweddol o’r gwaith hollbwysig a wneir yn y Dalaith.
Caiff y tri canon newydd eu hurddo gan yr Archeswgob yn ystod gwasanaeth agoriadol cyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys ar 27 Ebrill.
Y rhai a ddaw yn Ganonau Archesgobol yw:
Y Parch Athro Jeremy Duff
Penodwyd y Parch Athro Jeremy Duff yn Bennaeth gyntaf canolfan hyfforddiant gweinidogaeth newydd yr Eglwys, Sefydliad Padarn Sant, yn 2015. Yn y rôl honno mae’n goruchwylio holl hyfforddiant gweinidogaeth yn yr Eglwys – ar gyfer disgyblaeth yn ogystal â gweinidogaethau ordeiniedig.
Dywedodd, “Rwyf yn falch iawn i gael fy mhenodi yn Ganon Archesgobol. Tyfodd Sefydliad Padarn Sant i gael effaith gadarnhaol a sylweddol ar fywyd yr Eglwys yng Nghymru ym mhob esgobaeth ac mae’r anrhydedd yma’n cydnabod ac yn annog gweledigaeth, angerdd ac ymroddiad holl gymuned Padarn Sant.”
Y Parch Ddr Ainsley Griffiths
Gwasanaethodd y Parch Ddr Ainsley Griffiths fel Cyfarwyddwr Ffydd, Trefn ac Undod, ers 2018. Yn y rôl honno mae’n gyfrifol am ddatblygu pob agwedd o waith yr eglwys yn ymwneud ag athrawiaeth a myfyrdod diwinyddol, litwrgi a chysylltiadau ecwmenaidd a rhyng-ffydd a chynghori’r Fainc Esgobion.
Dywedodd, “Mae’n anrhydedd i mi gael fy ngwahodd i ddod yn Ganon Archesgobol. Fel cynghorydd yr esgobion ar faterion yn ymwneud â ffydd, trefn ac undod rwy’n falch fod y penodiad hwn yn cydnabod y parch a roddir i’r agweddau hyn o fywyd yr Eglwys yng Nghymru ac edrychaf ymlaen at weithio gydag eraill i hybu ein hymrwymiad yn y meysydd pwysig hyn.”
Simon Lloyd
Ymunodd Simon Lloyd â’r Eglwys yng Nghymru yn 2016 fel ei Ysgrifennydd Taleithiol. Mae ganddo gyfrifoldebau eang yn cwmpasu datblygu polisi, cymorth llywodraethiant, cyllid, cydymffurfiaeth a gweinyddiaeth ac mae’n arwain tîm staff y Corff Cynrychiolwyr fel Prif Weithredwr.
Dywedodd, “Rwy’n ddiolchgar i’r Archesgob am ei wahoddiad i ddod yn Ganon Archesgobol. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gydag ef, ei gyd esgobion a holl deulu yr Eglwys yng Nghymru wrth i ni ddweud stori lawen cariad Duw o’r newydd.”
Mr Lloyd fydd y lleygwr cyntaf i ddod yn ganon archesgobol.
Dywedodd yr Archesgob Andrew John, “Rwy’n hynod falch i roi’r anrhydeddau hyn. Mae penodi unrhyw unigolyn yn Ganon Archesgobol yn dangos fod ganddynt sefyllfa bwysig neu’n ymwneud â rôl hanfodol ym mywyd a thystiolaeth yr Eglwys yng Nghymru. Mae’n gydnabyddiaeth sylweddol o’r gwaith hollbwysig a wneir yn y Dalaith.
Caiff y tri canon newydd eu hurddo gan yr Archeswgob yn ystod gwasanaeth agoriadol cyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys ar 27 Ebrill.