Neges Nadolig yr Archesgob
Wrth i ni wynebu Nadolig gwahanol iawn i’r un arferol, ar ddiwedd blwyddyn dywyll a phryderus, mae Archesgob Cymru yn ein hannog i fod yn amyneddgar, yn gadarnhaol a chwilio am y goleuni ym mhen draw’r twnnel.
Yn ei neges Nadolig, cyfeiria’r Archesgob John Davies at y 33 o fwynwyr oedd wedi eu caethiwo dan ddaear yn Chile ond a achubwyd 10 mlynedd yn ôl. Fe ddaethant allan o’r tywyllwch dudew i’r goleuni nad oedden nhw’n meddwl y bydden nhw’n ei weld fyth eto. Gallwn ninnau hefyd, meddai, ddod o hyd i’r goleuni yn y tywyllwch sy’n cau amdanom yn awr trwy gariad a chydymdeimlad.
Bydd yr Archesgob yn pregethu yng Nghadeirlan Aberhonddu ddydd Nadolig am 11am mewn gwasanaeth fydd yn cael ei ffrydio yn fyw ar dudalen Facebook y Gadeirlan
Neges Nadolig yr Archesgob
Ar adegau sy’n ein herio, sydd yn aml yn ein gwneud yn bryderus, ansicr ac ofnus am y dyfodol, nid yw gobeithio am ddyddiau gwell yn beth anghyffredin i’w wneud. Wrth wneud hyn, rydym weithiau yn canolbwyntio ac yn cydio mewn pelydrau bach o obaith, gan eu gweld yn werthfawr ac yn ein cryfhau. Gallwn fynegi hyn trwy ddweud ein bod yn gweld goleuni ym mhen draw’r twnnel.
Ychydig fisoedd yn ôl, fe wnaeth fy ffôn fy atgoffa mai 10 mlynedd yn ôl y gwnaeth sefyllfa ddramatig mewn bywyd go iawn gael ei dadlennu am dwnnel dywyll iawn yn Chile, drama oedd yn canu cloch i lawer o deuluoedd yng Nghymru. Bydd rhai ohonoch yn cofio sefyllfa druenus y 33 o ddynion oedd ar goll dan ddaear mewn pwll dwfn a thywyll iawn. Mae cloddio o bob math yn rhan o’n hanes ni yng Nghymru, felly fe wnaeth y digwyddiad dramatig yma gyffwrdd llawer o galonnau a meddyliau. Roedd y mwynwyr hynny yn y tywyllwch mwyaf dudew y gallwn ni ei ddychmygu. Ond diolch i ddyfeisgarwch, amynedd, sgil, cariad a dewrder, ffurfiwyd a gweithredwyd cynlluniau a wnaeth eu galluogi i gael eu hachub. Daethant o’r tywyllwch dudew i’r goleuni - goleuni nad oedden nhw’n meddwl y bydden nhw’n ei weld fyth eto mae’n debyg.
Yn ein byd ni heddiw, mae gan lawer brofiad uniongyrchol, nid o’r tywyllwch dudew, ffisegol wnaeth gau am y mwynwyr hynny, ond tywyllwch ysbrydol ac emosiynol, y tywyllwch personol a’r pryder sy’n deillio o newid parhaus ac ar hap. Wrth gwrs mae COVID19 ymhlith y prif resymau am hyn, ond mae cymaint o rai eraill fel tlodi, newyn, erledigaeth, rhagfarn a diffyg goddefgarwch. Mae’r rhain i gyd, ynghyd â nifer o enghreifftiau eraill o ddioddef ac angen, yn achosi i’n brodyr a chwiorydd yn y teulu dynol trwy’r byd gael eu cau mewn mannau tywyll. Felly, mae’n bwysig a da i ni bob amser gofio, pa mor dywyll bynnag yw’r twnnel, mae golau yn rhywle i ni chwilio amdano, ei gofleidio, i fynnu cael gafael arno a gadael iddo ddisgleirio. Mae pobl, ar eu gorau, yn poeni yn ddwys ac yn gariadus.
Neges Gristnogol y Nadolig - a dweud y gwir dyna neges Cristnogaeth trwy’r flwyddyn, ond mae’n cael ei deimlo yn gryfach ar adeg y Nadolig - yw goleuni yn torri i’r tywyllwch. Mae’r efengylwr Ioan, yn adnodau cyntaf rhyfeddol ei fersiwn o’r Efengyl, yn sôn am oleuni yn dod i’r byd, goleuni na all unrhyw dywyllwch ei orchfygu. Dyma oleuni cariad perffaith, fel cariad yr Iesu. A gelwir arnom i gyd i groesawu’r golau hwnnw, bod yn esiampl o’r cariad hwnnw, bod yn asiantau dros y ddau i eraill trwy ein caredigrwydd, ein haelioni, ein cydymdeimlad, a’n gofal a’n dyfeisgarwch.
Yng Nghymru, rydym newydd glywed y byddwn yn mynd yn ôl i gyfnod clo arall a bydd hynny wedi dychryn llawer ohonom ac, efallai, gwneud i ni feddwl nad yw’r goleuni ym mhen draw’r twnnel, yr oeddem ni’n meddwl ei fod yno, yno o gwbl ac yn sicr nad yw’n disgleirio mor llachar ag y gallai. Felly rhaid i ni i gyd dynnu at ein gilydd ac edrych, nid i’r tywyllwch, ond tuag at y goleuni, a chydnabod bod camau cadarnhaol yn cael eu cymryd. Trwy ddyfeisgarwch dynol, cydymdeimlad dynol a’r gorau un mewn natur ddynol, mae cynnydd yn digwydd. Ac, er bod y ffordd yn mynd i fyny ac i lawr ac yn glonciog mewn ambell i fan, fe fyddwn yn dod trwy hyn, ac wrth i ni aros i wneud hynny, byddai’r Arglwydd Iesu am i ni fod yn ystyriol, amyneddgar a gofalus ac, pan fyddwn ni’n gallu, hefyd bod yn asiantau gweithredol i’r goleuni, y cariad, y gefnogaeth a’r cydymdeimlad y byddai ef yn ei ddangos i eraill.
Yn 2020 rydym yn agosáu at gyfnod Nadolig gwahanol iawn, un sy’n mynd i fod yn fwy cyfyng nag yr oeddem wedi gobeithio y gallai fod. Gadewch i ni wneud ein gorau i fod yn gadarnhaol, yn amyneddgar ac, hyd yn oed os ydym yn wynebu anawsterau nad oeddem erioed wedi dychmygu y byddem, i arfer cred wirioneddol a dofn bod goleuni ym mhen draw’r twnnel y byddwn ni yn ei gyrraedd yn y diwedd.
Dymunaf i chi Nadolig heddychlon, gobeithiol a llawn goleuni. Gwnewch bopeth a allwch chi i ddwyn y tangnefedd, y gobaith a’r goleuni hwnnw i eraill hefyd.