Archesgob yn ymuno â'r alwad am newidiadau i'r Bil
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, ymysg uwch arweinwyr eglwysig a ysgrifennodd at bob Aelod Seneddol cyn y bleidlais ddydd Mercher ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, yn eu hannog i ddefnyddio eu dylanwad i wneud newidiadau i’r Bil
Daw’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau gerbron Aelodau Seneddol ddydd Mercher 20 Ebrill i roi cyfle iddynt bleidleisio ar welliannau a gynigiwyd gan Dŷ’r Arglwyddi. Mae’r Bil yn ei gamau terfynol ac mae’n parhau i gael ei gefnogi gan y llywodraeth, er iddo gael ei drechu nifer o weithiau yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae’r arweinwyr Eglwysig a lofnododd y llythyr yn cynrychioli ystod o enwadau a thraddodiadau yn y Deyrnas Unedig, gyda llawer ohonynt wedi beirniadu’r Bil dros y flwyddyn ddiwethaf. Anfonwyd y llythyr at bob Aelod Seneddol a etholwyd ar hyn o bryd i Dŷ’r Cyffredin.