Archesgob yn ymuno â 1,000 o arweinyddion ffydd i annog prif weinidog y du i ailfeddwl y Bil Ffoaduriaid
Mae Archesgob Cymru Andrew John ymhlith mwy na 1000 o arweinwyr ffydd ar draws gwledydd Prydain sydd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn ei annog i ailystyried y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Mae’r arweinwyr, yn cynrychioli chwe phrif grŵp ffydd y DU, yn dweud eu bod ‘wedi eu harswydo ac wedi dychryn am ganlyniadau posibl’ y Bil ac wedi galw ar y Prif Weinidog i wneud newidiadau brys ‘hyd yn oed mor hwyr â hyn’.
Mae’r llythyr, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Llun 28 Chwefror 2022), y diwrnod y bydd y Bil yn cychwyn ar ei gamau olaf yn Nhŷ’r Arglwyddi – cyfle olaf hollbwysig i wneud newidiadau – yn datgan: ‘Cyhyd ag y bydd gwrthdaro ac anghyfiawnder yn y byd, bydd bob amser pobl ar eu cythlwng yn ceisio lloches rhag rhyfel, erledigaeth a dioddefaint.
‘Allwn ni ddim cau ein drws arnynt, ond dyna’n union y mae’r Bil hwn yn ei wneud.’
“Mynnwn mai’r gwerthoedd sy’n clymu dinasyddion y DU at ei gilydd, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag urddas a bywyd dynol, yn cael ei niweidio’n sylfaenol gan y Bil hwn.”
Yng nghyd-destun gwrthdaro byd-eang cynyddol, gan gynnwys yr wythnos hon yn yr Wcráin, mae’r ffordd y mae’r bil yn tanseilio gallu’r DU i gefnogi pobl sy’n ffoi rhag gwrthdaro yn amlycach fyth.
Mae’r llythyr yn galw ar Brif Weinidog y DU i wneud newidiadau sylweddol i’r Bil. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi’r gorau i gynlluniau’r llywodraeth i gyfyngu ar hawliau pawb sy’n cyrraedd y DU yn ceisio noddfa fel ffoaduriaid y tu allan i gynlluniau a drefnwyd ymlaen llaw, gan gynnwys y rhai sy'n dod trwy lwybrau anghonfensiynol, megis mewn cychod neu loriau, a’u trin fel troseddwyr. Dywed y llofnodwyr fod y polisi hwn wedi’i lunio ‘heb sail o ran tystiolaeth na moesoldeb’.
Mae'r llofnodwyr hefyd yn honni bod yn rhaid i'r llywodraeth fynd i'r afael ar fyrder â'r methiant i sefydlu llwybrau diogel drwy’r Bil, a fyddai’n helpu pobl sy’n ceisio noddfa i gyrraedd y DU, gan ddweud bod y methiant hwnnw yn tanseilio’i nodau sylfaenol. Maen nhw’n annog y Prif Weinidog i fod yn ‘dosturiol ac uchelgeisiol’ trwy agor cynlluniau megis aduniad teuluol, llwybrau ar gyfer plant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain yn Ewrop ac adsefydlu.
Mae cynrychiolwyr o gymunedau ym mhob sir yn Lloegr wedi arwyddo, ac mae yna gynrychiolaeth eang o’r Alban a Chymru. Mae llawer o gymunedau ffydd ar draws y DU yn gallu tystio ar sail profiad i effaith gadarnhaol llwybrau diogel ar bobl yn eu cymunedau, trwy weithio ym mentrau integreiddio ffoaduriaid, rhaglenni noddi cymunedol a darparu cymorth brys i ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd o Afghanistan.
Mae’r llythyr yn galw ar y Prif Weinidog i ddangos ‘arweinyddiaeth wleidyddol’ a hybu ‘tosturi, bywyd ac urddas dynol’. Mae arweinyddion ffydd wedi gofyn i'r Prif Weinidog gyfarfod i drafod eu pryderon.