Arweinwyr eglwysi yn erfyn ar i’r Prif Weinidog osod targed o 75% ar gyfer allyriadau
Mae arweinwyr rhai o brif eglwysi Cymru wedi ymuno gydag arweinwyr eglwysi o amgylch Prydain i ysgrifennu llythyr at Boris Johnson yn galw arno i addo torri allyriadau’r DG o leiaf 75%, o lefelau 1990, erbyn 2030, pan fydd yn cyflwyno cynllun hinsawdd cyntaf y wlad o dan Gytundeb Paris.
Gyda’r DG yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i’r wlad yn awr gyflwyno cynllun hinsawdd ei hun i gorff hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, yr UNFCCC, yn amlinellu’r bwriad o dorri allyriadau a’r gefnogaeth y bydd yn rhoi i weldydd bregus sy wedi gwneud ond ychydig i achosi newid hinsawdd. Caiff ei sgrwitineiddio’n ofalus gan fod y DG yn llywyddu uwch gynhadledd nesaf y CU ar yr hinsawdd yn Glasgow yn 2021.
Ymhlith y rhai sy wedi arwyddo’r llythyr mae Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies ac arweiwnyr enwadol eraill o Gymru, yn ogystal â chynrychiolwyr Eglwys Loegr, Eglwys yr Alban, Undeb y Bedyddwyr, yr Eglwys Fethodistaidd, yr United Reformed Church a’r Crynnwyr.
Ysgrifennant:
‘Yn 2021, mae gan y DG y cyfle i fod yn arweinydd byd eang go iawn. Mae 2021 yn flwyddyn dyngedfennol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac mae’r DG mewn sefyllfa unigryw i arwain y byd mewn gweithred uchelgeisiol fel Llywydd trafodaethau COP26 y CU.
‘Mae Cymorth Cristnogol, ei eglwysi cefnogol ar draws y DG, a’i bartneriaid lleol ar draws y byd yn disgwyl i’ch Llywodraeth fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd sydd yn deg a chyfiawn i bobl dlotaf y byd. Dyna pam ein bod ni heddiw, fel cynrychiolwyr yr eglwysi hynny, yn ysgrifennu atoch yn cefnogi deiseb a gyflwynir ichi gan Cymorth Cristnogol, wedi ei arwyddo gan 57,000 o’i gefnogwyr, yn galw am weithredu.’
Maent yn galw ar y Llywodraeth i dorri allyriadau’r DG 75%, o lefel 1990, erbyn 2030, yn llwyr drwy weithredu gartref, ac wedi ei seilio ar dystiolaeth wyddonol gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd.
Maent hefyd yn galw am weithredu i gefnogi gwledydd sy’n fregus i newid hinsawdd gydag arian hinsawdd, cymorth i gymunedau sydd angen addasu i effeithiau newid hinsawdd a help i sicrhau technoleg ynni adnewyddol fel eu bod yn gallu troi oddi wrth ynni ffosil.
Maent yn cloi: ‘Wrth inni edrych ymlaen gyda gobaith i sicrhau cytundeb pwysig yn Glasgow y flwyddyn nesaf, mae eglwysi ar draws y DG wedi ymrwymo - ynghyd â Cymorth Cristnogol a’i gefnogwyr - i weithio gyda chi a’ch Llywodraeth i helpu i wireddu cynllun hinsawdd cenedlaethol fydd yn sicrhau cyfiawnder i bobl dlotaf y byd.’
Yn cyd-fynd â’r llythyr mae deiseb wedi ei arwyddo gan 57,000, yn mynnu Cytundeb Newydd am Gyfiawnder Hinsawdd sy’n rhoi tlodion y byd a’r cymunedau mwyaf bregus yng nghanol polisi hinsawdd byd eang, yn atal ehangu prosiectau ynni ffosil ac yn buddsoddi i ddatgarboneiddio economi’r DG yn sydyn.
Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Gweithredol Cymorth Cristnogol: ‘Yr argyfwng hinsawdd yw pwnc moesol mawr ein dydd. Y bobl sy’n dioddef fwyaf yw’r rhai sy wedi gwneud y lleiaf i’w greu. Dyna pam fod arweinwyr eglwysi ar draws Prydain yn cyd sefyll i alw ar i Boris Johnson osod ymrwymiad beiddgar i wledydd eraill ei ddilyn.
‘Fel llywydd uwch gynhadledd y CU y flwyddyn nesaf, bydd y DG yn annog gwledydd eraill i ddod â chynlluniau uchelgeisiol ymlaen. Rhaid i addewid hinsawdd y DG osod targed uchel felly, byddai unrhyw beth arall yn fethiant o arweiniad.
‘Wedi’r penderfyniad diweddar i dorri cymorth rhyngwladol, mae gan y DG ddyletswydd foesol i roi anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yng nghanol yr uwch gynhadledd. Mae’r bobl hynny sy’n wynebu realiti newid hinsawdd heddiw yn dibynu ar ei llwyddiant.’