Enwi Archesgob Cymru fel Noddwr canolfan adsefydlu
Mae Archesgob Cymru wedi derbyn rôl Noddwr Tŷ Brynawel, canolfan adsefydlu breswyl yn Ne Cymru. Bydd yn rhoi ei gefnogaeth i’w chenhadaeth o gynorthwyo pobl ar eu taith tuag at wellhad o gaethiwed.
Mae’r Archesgob Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor, wedi cefnogi llawer o elusennau alcohol a chyffuriau yn ystod ei weinidogaeth. Mae’n awyddus i dynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu pobl a sut mae cymorth yn eu galluogi i wneud dewisiadau da am eu defnydd o sylweddau.
Dywedodd Sue Gwyn, Prif Weithredwr Brynawel, ei bod yn hynod falch i groesawu’r Archesgob fel Noddwr. Dywedodd, “Mae gan yr Archesgob Andrew ddealltwriaeth ragorol ac empathi gyda’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n aml yn dioddef gwahaniaethu yn eu herbyn a stigma wrth geisio cael mynediad i driniaeth.
“Bydd yn rhoi arweiniad ac eiriolaeth werthfawr tu hwnt i’n preswylwyr a’u teuluoedd. Mae ei werthoedd yn hollol gydnaws gyda gwerthoedd Brynawel, pwysigrwydd adsefydlu hygyrch a thrugarog wrth sicrhau gwellhad ystyrlon a pharhaus.”
Rwy’n ystyried bod gwaith Brynawel yn hanfodol oherwydd mae’n galluogi’r hyn mae awdurdodau statudol, ar eu pen eu hunain, yn ei chael yn anodd i’w ddarparu
Cyfarfu’r Archesgob gyda staff a chleientiaid pan ymwelodd â Brynawel yn ddiweddar ac mae’n disgrifio rôl y ganolfan fel ‘hanfodol’.
Dywedodd, “Yn aml ni chaiff y gwaith o gefnogi pobl sydd angen help, oherwydd eu defnydd o sylweddau, ei gyllido na’i werthfawrogi’n ddigonol. Mae diwylliant beio yn dal i barhau ar adegau ac nid yw’n gwneud fawr i gynorthwyo pobl fregus sy’n dod yn gofyn am help. Rwy’n ystyried bod gwaith Brynawel yn hanfodol oherwydd mae’n galluogi’r hyn mae awdurdodau statudol, ar eu pen eu hunain, yn ei chael yn anodd i’w ddarparu. Mae Brynawel yn cyflogi staff proffesiynol sy’n gweld eu gwaith fel galwedigaeth – gwneud gwahaniaeth ac mae hyn yn wirioneddol yn taro tant cryf gyda fi.”
Mae elusen Canolfan Brynawel yn seiliedig yn Llanharan yn Rhondda Cynon Taf. Mae ganddi 21 cleient o bob rhan o’r wlad ac a all aros am bedwar mis. Mae therapyddion a thîm clinigol ehangach yn eu cefnogi gyda’u gwellhad.
‘Ailddarganfod yn amhrisiadwy’
Mae Eurwyn Thomas, cyn breswylydd Brynawel, yn ysgrifennu:
Cyrhaeddais Dŷ Brynawel ar 8 Mawrth 2022, ar ôl symud o Ogledd Cymru ac yn nyddiau cynnar iawn gwellhad.
Ar ôl blynyddoedd o fod wedi fy nal mewn cylch oedd yn ymddangos yn ddiddiwedd o yfed, hunan-dosturi a pheidio cymryd unrhyw gyfrifoldeb am fy ngweithredoedd fy hun – cyrhaeddais y Bryn, fel rwy’n hoffi ei alw; dim ond fi, ego teilchion a chês dillad bler o’r 1980au.
Daeth yn amlwg yn fuan fod y ganolfan mewn lleoliad bendigedig a chefais groeso cynnes gyda danteithion o’r gegin. Roedd fy ystafell yn hyfryd, ac roedd fy ngweithwyr gwellhad yn amyneddgar ac yn deall, ac yn gwneud i mi deimlo y gallwn ymlacio ychydig a pheidio bod mor groendenau.
Dilynodd taith eithriadol o fuddiol, pedwar mis i gyd, lle gallwn ymchwilio, deall a rheoli fy emosiynau fy hun. Roedd yr holl daith yn ddifyr dros ben ac fe ffurfiais berthynas dda gyda gweddill fy nghyd-breswylwyr. Roeddwn yn mwynhau sesiynau un i un wedi’u strwythuro gyda fy therapydd Paul, ac wrth wneud hynny dechreuais ddysgu mwy amdanaf fy hun, fy ymddygiad blaenorol a’r hyn roedd angen i mi ganolbwyntio arno i gynnal y newid bywyd gwirioneddol gadarnhaol roeddwn wedi ei wneud. Fe wnes fwynhau fy nhaith drwy fy lleoliad yn y Bryn, ac o fewn pump wythnos cefais gynnig aros yn y bwthyn am weddill fy arhosiad, oedd yn gyfle gwych i ddod i adnabod fy nghyd-breswylwyr.
Fe wnes fagu llawer o bwysau (sy’n dal i hoffi ei le hyd heddiw ...!) gan nad oeddwn wedi bod yn bwyta’n dda ers rhai blynyddoedd. Gwnaeth y staff arlwyo waith gwych o ofalu am bob angen diet a gwahanol chwaeth. Dechreuais edrych ar ôl fy hun eto, gan ymfalchïo mewn bod yn daclus a mwynhau creu golwg ‘Eurwyn’ newydd. Ar ddiwedd y pedwar mis, roedd fy hen gês dillad bler yn dal gennyf – heb unrhyw ôl o’r hen gynnwys.
Caethiwed mor rymus ag unrhyw beth wrth gadw pobl ar yr un lefel
Wrth i mi deipio’r geiriau hyn, cefais hysbysiad Facebook am Atgof Amserlen (dwy flynedd i’r diwrnod!) ac ar ôl ei agor gwelais lun ohonof fi a’r Archesgob – Andy John. Fe wnes eistedd a siarad gyda’r Archesgob am beth amser pan ymwelodd â’r Bryn ac roeddwn yn falch i siarad am y daith y bûm arni, a sut yr oedd cyrraedd yn y ganolfan wedi fy newid o fod yn gyn Swyddog Heddlu sur, a rywfaint yn betrus, i fod yn unigolyn ymwybodol o emosiynau a gyda meddwl hollol agored, sydd wedi dysgu parchu’r ffaith fod caethiwed mor rymus ag unrhyw beth wrth gadw pobl ar yr un lefel.
Rwy’n falch y cytunodd yr Archesgob i ddod yn noddwr y lle gwych yma. Rwy’n gwybod fod gan yr Eglwys yng Nghymru rôl bwysig yn ein cymunedau ac yn darparu mannau diogel ar gyfer banciau bwyd, canolfannau cymdeithasol a lleoedd cynnes yn ein cymunedau, yn ogystal â darparu’r arweiniad ysbrydol mae llawer ohonom yn edrych amdano. Roedd fy mam yn falch iawn o’r llun o’r Archesgob a finnau – a fi hefyd!
Fel yr oedd hi, ni wnes lwyddo i fynd yn ôl i’r Gogledd! Ar ôl phwyso a mesur pa mor llesol yn feddyliol oedd hi i fod i ffwrdd o leoliadau a phobl cyfarwydd, roedd y penderfyniad i aros yn y De eisoes wedi ei wneud. Yn y diwedd fe setlais yng Nghaerdydd ac rwy’n awr yn weithiwr Defnydd Sylweddau ar gyfer CAVDAS yng Nghaerdydd a’r Fro. Rwy’n mynd drwy gymhwyster y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli ar hyn o bryd – ac adeg ysgrifennu hyn rwy’n disgwyl cyfweliad am swydd Arweinydd Tîm o fewn yr un sefydliad – ‘cadwch eich llygaid ar agor’!
Ar 8 Mawrth dechreuais fy nhaith o ailddarganfod. Mae ailddarganfod yn amhrisiadwy.