Archesgob Cymru yn cyhoeddi penodiadau hanesyddol yng Nghadeirlan
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, wedi cyhoeddi penodiad pum unigolyn nodedig i wasanaethu fel Canoniaid Mygedol yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.
Mae'r penodiadau hyn gerrig milltir arwyddocaol yn yr Eglwys yng Nghymru, gan eu bod yn cwmpasu cynifer o benodiadau cyntaf o’u math o fewn y sefydliad.
Mae penodi’r Canoniaid Mygedol hefyd o bwys mawr i Gadeirlan Deiniol Sant, gan adlewyrchu ei galwedigaeth i ymwneud â materion brys o gyfiawnder cymdeithasol a chyfrifoldeb cymdeithasol, law yn llaw ag ymateb i syched ysbrydol gwirioneddol ein cymdeithas a’n dyheu i symud y tu hwnt i'r diwylliant cyffredinol o bryder trwy fyfyrio ar yr harddwch, y gwirionedd a’r cariad a geir yn Nuw.
Canon Amgylcheddwr
Gan danlinellu ymroddiad yr Eglwys i stiwardiaeth amgylcheddol, mae’r Eglwys yng Nghymru yn croesawu ei Canon Amgylcheddwr cyntaf, yr Athro Robin Grove-White, Athro Emeritws yn y Ganolfan Astudio Newid Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerhirfryn a chyn-Gadeirydd Greenpeace yn y DU. Bydd yr Athro Grove-White yn cefnogi’r Gadeirlan ac Esgobaeth Bangor yn eu hymrwymiad i fynd i’r afael, yn ymarferol ac yn ysbrydol, ag argyfwng hinsawdd y byd.
Canon Bregethwr
Yr awdur a’r offeiriad, y Parchg Jarel Robinson-Brown, yw’r Canon Du hoyw cyntaf i wasanaethu Cadeirlan o fewn yr Eglwys yng Nghymru, mewn penodiad arloesol sy’n amlygu ei hymrwymiad i amrywiaeth a chynwysoldeb. Mae’r Tad Jarel, fydd yn Ganon Bregethwr y Gadeirlan, yn dal dinasyddiaeth Brydeinig a Jamaicaidd ar y cyd, ac mae’n bregethwr y mae galw mawr amdano, gan annerch cynulleidfaoedd yn ddiweddar yn Eglwys Gadeiriol St Paul, Ysgol Diwinyddiaeth Iâl, a Phrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt a Durham. Mae hefyd yn gyd-Gadeirydd yr Elusen Gristnogol LGBTQ+ OneBodyOneFaith.
Canon Lyfrgellydd
Yr Athro Helen Wilcox, Athro Emeritws yn Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith ym Mangor, yw'r fenyw lleyg cyntaf i’w hapwyntio’n Ganon Lyfrgellydd. Daw’r penodiad arwyddocaol hwn cyn dathlu mileniwm a hanner ers sefydlu Cadeirlan Sant Deiniol yn 2025. Bydd yn cynghori ar agweddau diwylliannol y pen-blwydd wrth i’r Gadeirlan ddathlu 1,500 o flynyddoedd fel mangre addoli Cristnogol parhaus. Mae’r Athro Wilcox yn un o olygyddion yng nghyfres Arden Shakespeare ac mae’n arbenigwr ar rywedd mewn llenyddiaeth fodern gynnar.
Canon Brifardd
Gan bwysleisio ymrwymiad newydd Bangor i ddathlu’r iaith Gymraeg a chelfyddyd Gymreig, daw’r bardd a’r tiwtor Diwinyddiaeth Gymreig Siôn Aled yn Canon Brifardd cyntaf Cymru. Mae Siôn Aled yn un o feirdd preswyl prosiect Llwybr Cadfan Esgobaeth Bangor lle mae’n perfformio barddoniaeth wreiddiol wedi’i hysbrydoli gan dirwedd Meirionnydd ac Ynys Enlli. Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth, ac ef oedd Bardd y Goron yn Eisteddfod Maldwyn ym 1981.
Canon Cyfansoddwr
Penodir y cyfansoddwr Alexander Mills, a aned yn Sir Benfro, yn Ganon Cyfansoddwr, y cyntaf o’i fath yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae gweithiau Alexander wedi cael eu perfformio’n eang, gan gynnwys yn Wigmore Hall, y Barbican a’r Melbourne Recital Centre, a’u darlledu ar BBC Radio 3 a 4. Mae gan Alex angerdd dros blethu cerddoriaeth a’r iaith Gymraeg, ac yn 2023 fe’i comisiynwyd i gyfansoddi gosodiad newydd o Saith Air y Groes yn y Gymraeg a gafodd ganmoliaeth fawr a’i berfformio am y tro cyntaf yng Nghadeirlan Deiniol Sant ar Ddydd Gwener y Groglith 2023.
Mae pob Canon yn cynrychioli elfen o fywyd ar y cyd y Gadeirlan, gan dystio i faes y mae’r Gadeirlan ac Esgobaeth Bangor wedi’i nodi fel un bwysig i fywyd yr Eglwys yn ein dyddiau ni, a lle bydd adnoddau ac egni pellach yn cael eu buddsoddi dros y blynyddoedd nesaf.
Gan gydnabod ei benodiad hanesyddol, dywed y Tad Jarel, "Mae’n anrhydedd cael fy apwyntio yn Ganon Mygedol ym Mangor, ac un yw wyf yn ei dderbyn yn wylaidd iawn. Mae gan Gymru le arbennig iawn yn fy nghalon ac rydw i’n cael fy ysbrydoli’n fawr gan arweiniad Archesgob Cymru, ac ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru yn ehangach, i gynnal urddas pawb. Edrychaf ymlaen at fy nghyswllt ag Esgobaeth Bangor fel hyn ac at gyfrannu fel Canon Bregethwr i’w gweinidogaeth a’i thystiolaethu am lesu Grist."
Gan gadarnhau ei ymrwymiad i gerddoriaeth a’r iaith Gymraeg, dywed Alex Mills, "Mae’r pŵer rhyfeddol sydd gan gerddoriaeth i’n hysbrydoli, ein hysgwyd a’n huno yn ei gwneud yn rhan hynod bwysig o fywyd Cadeirlan a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Mae’n anrhydedd mawr i mi gael y cyfle i helpu i feithrin a thyfu hyn yng Nghadeirlan Deiniol Sant dros y blynyddoedd nesaf ac i fod yn rhan o lunio hunaniaeth y Gadeirlan wrth iddi baratoi i ddathlu mileniwm a hanner ei sefydlu."
Canoniaid Gwaddol
Mae Archesgob Cymru hefyd wedi penodi tri Canon Gwaddol a fydd yn aelodau o Gabidwl y Gadeirlan, sef corff llywodraethu’r Gadeirlan. Hwy fydd:
- Uwch Gynhyrchydd BBC Radio Cymru, Gareth Iwan Jones. Mae Gareth yn gyfrifol am lawer o arlwy Radio Cymru o Fangor, yn ogystal ag am raglenni Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar Radio Cymru. Mae Gareth yn aelod o gynulleidfa Cymun Bendigaid ar Gân y Gadeirlan.
- Lesley Hall, trefnydd cymunedol, aelod craidd o dîm stiwardio a chroesawu’r Gadeirlan, ac aelod rheolaidd o gynulleidfa’r Choral Holy Eucharist.
- Awdur ac offeiriad yr Eglwys yng Nghymru y Parchedig Naomi Starkey, sy’n gwasanaethu fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Padrig yng ngogledd-orllewin Ynys Môn.
Wrth gyhoeddi’r penodiadau, dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, "Mae’n bleser mawr gallu cyhoeddi penodiad wyth Canon newydd i’r Gadeirlan, pum Canon Mygedol a thri Chanon Gwaddol. Yr wyf yn ddiolchgar iddynt oll am dderbyn y gwahoddiad i gyfrannu at fywyd y Gadeirlan, yr Esgobaeth, a’n bywyd cyhoeddus yma yng Ngogledd-Orllewin Cymru a thu hwnt; ac yr wyf am longyfarch pob un ohonynt ar eu hapwyntiad.
"Gyda’i gilydd maent yn dwg ehangder enfawr o sgiliau a phrofiad i’w rolau newydd, gan hybu cymdeithas y Gadeirlan yn fangre lle gall pawb ddod ynghyd a phrofi ffydd, gobaith a chariad. Gwahoddwyd pob un o’r Canoniaid newydd hyn â chydnabyddiaeth o’r cyfraniad sylweddol y maent wedi’i wneud, ac yn parhau i’w wneud, o fewn eu maes arbenigedd, ac fe’ch gwahoddaf i ymuno â mi i weddïo drostynt wrth iddynt ymgymryd â’u swyddi a’u cyfrifoldebau newydd."
Wrth groesawu’r canoniaid newydd, meddai’r Canon Siôn Rhys Evans, Is-Ddeon Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, "Rwy’n croesawu’n fawr benodi ein Canoniaid newydd. Mae’r penodiadau hyn yn ennyd hanesyddol yn hanes Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor wrth i ni ddechrau edrych ymlaen at dathliadau mileniwm a hanner er sein sefylu, gan drochi ein hunain yn ein hanes a’n diwylliant unigryw i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
"Mae gan ein Canoniaid ystod amrywiol o sgiliau a phrofiad a fydd yn cyfoethogi cenhadaeth a gweinidogaeth Cadeirlan Deiniol Sant. Rwy’n gwybod y byddant yn llysgenhadon rhagorol i’r Gadeirlan, yn ogystal â’n stiwardiaid heriol o weledigaeth a phwrpas y Gadeirlan."
Bydd y canoniaid newydd yn cael eu gosod ar ddydd Sul 1 Hydref am 3.30pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. Bydd Archddiaconiaid newydd Bangor a Meirionydd hefyd yn cael eu gosod yn eu seddau yn y Gadeirlan yn ystod y gwasanaeth hwn, a bydd y Canon Jane Coutts, un o Ganoniaid Gwaddol presennol y Gadeirlan, yn cael ei gosod yn sedd y Canon Bencantor.
Bywgraffiadau
Canoniaid Mygedol
Yr Athro Robin Grove-White | Canon Amgylcheddwr
Treuliodd yr Athro Robin Grove-White ei yrfa ar y groesffordd rhwng ymchwil a pholisi ym maes yr amgylchedd. Mae'n Athro Emeritws yn y Ganolfan Astudio Newid Amgylcheddol (CSEC) ym Mhrifysgol Caerhirfryn. Roedd ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu dulliau gwyddor gymdeithasol newydd a gwreiddiol at ymchwil amgylcheddol. Roedd hyn yn golygu arweinyddiaeth ddeallusol – mewn synergedd â chydweithiwr allweddol, yr Athro Brian Wynne – wrth greu a datblygu’r CSEC ar fyrder.
Cyn ei waith ymchwil yng Caerhirfryn, roedd Robin, o 1981 i 1987, yn Gyfarwyddwr Cyngor Diogelu Lloegr Wledig. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Greenpeace UK, un o brif elusennau eiriolaeth amgylcheddol y wlad, rhwng 1997 a 2003.
Yn 2018 dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddo gan Brifysgol Bangor am wasanaethau i’r gymuned, ac ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel Llywydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn. Mae'n byw ar gyrion pentref Llanfechell ar Ynys Môn.
Y Parchg Jarel Robinson-Brown | Canon Bregethwr
Brodor Jamacaidd yn enedigol ym Mhrydain yw Jarel Robinson-Brown, ac mae'n dal yn falch o fod yn ddinesydd y DU a Jamaica ar y cyd. Ar ôl hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Nghaergrawnt (2010-2013) gwasanaethodd fel Gweinidog Methodistaidd yn Ne Cymru rhwng 2013 a 2018, yna fel Caplan Cyswllt yn Kings College Llundain, ac, ar ôl cael ei ordeinio yn Eglwys Loegr, mae ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel Curad Cynorthwyol yn eglwysi St Botolph-without-Aldgate a Holy Trinity Minories yn Esgobaeth Llundain. Mae Jarel yn Ysgolhaig Gwadd yng Ngholeg Sarum, Salisbury ac yn Gyd-Gadeirydd yr Elusen Gristnogol LHDTC+ fyd-eang OneBodyOneFaith, sy’n gweithio i gynnwys pobl LHDTC+ yn llawn ym mywyd yr Eglwys. Yn 2011 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Black, Gay, British, Christian, Queer: The Church and the Famine of Grace, ac ym mis Hydref 2022 traddododd Darlith Goffa Agoriadol y Parchg Ddr Margaret Thrall yng Nghadeirlan Deiniol Sant.
Yr Athro Helen Wilcox | Canon Lyfrgellydd
Mae Helen Wilcox yn Athro Emerita Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, lle bu’n gweithio rhwng 2006 a 2020, a lle bu’n Bennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar a Chadeirydd Grŵp Tasg Materion Diwylliannol Prifysgol Bangor. Wedi'i geni a'i magu yn Nottingham, astudiodd ym mhrifysgolion Birmingham a Rhydychen. Cyn symud i Gymru, bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Lerpwl ac yn Athro ym Mhrifysgol Groningen, Yr Iseldiroedd.
Mae Helen yn arbenigydd ar lenyddiaeth Saesneg yr 16ef a’r 17eg ar bymtheg, gan gynnwys barddoniaeth delynegol, ysgrifennu defosiynol, Shakespeare, ysgrifennu cynnar menywod, hunangofiant, a’r berthynas rhwng geiriau a cherddoriaeth. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae Her Own Life: Autobiographical Writings by Seventeenth-Century Englishwomen (1989), Women and Literature in Britain, 1500-1700 (1996), The English Poems of George Herbert (2007), 1611: Authority, Gender and the Word in Early Modern England (2014), The Oxford Handbook of Early Modern English Literature and Religion (2017) ac argraffiad newydd Arden o All’s Well That Ends Well (2019). Ar hyn o bryd mae hi yn y tîm golygyddol ar gyfer Gwaith Aphra Behn, ac yn cyd-olygu The Cambridge Companion to Devotional Poetry gyda’r Canon Mark Oakley (Darpar Ddeon Cadeirlan Southwark).
Mae hi’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hi wedi bod yn bregethwr gwadd mewn eglwysi ac chadeirlannau yng Nghymru, Lloegr, UDA a’r Iseldiroedd. Mae hi’n Warden Eglwys Sant Peris, Nant Peris, yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, ac yn ymddiriedolwr Ynys Enlli lle mae’n cadeirio’r Pwyllgor Ysbrydolrwydd.
Alexander Mills | Canon Gyfansoddwr
Mae Alex Mills yn gyfansoddwr Cymreig y mae ei gwaith yn ymestyn dros gerddoriaeth opera, cerddorfaol, corawl a siambr, a cherddoriaeth ar gyfer dawns, gosodiadau celf, a ffilm. Mae ei waith yn aml yn archwilio’r cysylltiad rhwng cerddoriaeth ac emosiynau a sut y gall cerddoriaeth helpu i hwyluso profiadau ysbrydol.
Mae cerddoriaeth Alex wedi’i pherfformio’n eang, gan gynnwys yn y Barbican, yr Oriel Genedlaethol, y V&A, Neuadd Wigmore, King’s Place, Café OTO ac ar BBC Radio 3 a 4.
Mae comisiynau diweddar yn cynnwys darn newydd ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 2022, a’r gosodiad cyntaf erioed o Saith Air y Groes yn yr iaith Gymraeg ar gyfer Côr Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, a berfformiwyd am y tro cyntaf ar Ddydd Gwener y Groglith 2023.
Mae’r Guardian wedi disgrifio ei waith fel “cerddoriaeth o deimladau goruwchnaturiol, melodig ond arallfydol, ag iddo naratif brys sydd hefyd yn farddonol argraffiadol.”
Yn enedigol o Sir Benfro, astudiodd Alex gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt a derbyniodd radd Meistr â rhagoriaeth mewn cyfansoddi yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall. Mae'n byw yn Llundain.
Siôn Aled | Canon Brifardd
Ganed Siôn Aled yng Nglanadda, Bangor, gyda'i wreiddiau teuluol ar Ynys Môn. Bu iddo graddio mewn Cymraeg a Diwinyddiaeth, ac ennill doethuriaethau mewn Diwinyddiaeth (am ymchwil i gyfathrebu yn ystod Diwygiad 1904-1906) ac Addysg Ddwyieithog. Mae wedi bod yn barddoni ers tro byd, gan enill Cadair Eisteddfod yr Urdd yn 1976, a Choron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1981.
Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth, y diweddaraf yw Rhwng Pla a Phla / Between the Plagues, cydweithrediad dwyieithog gyda’r arlunydd Iwan Bala. Mae’n cyhoeddi llawer o’i waith y dyddiau hyn ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Facebook, ac mae ei waith hefyd yn cael ei arddangos yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ymhlith mannau eraill. Mae wedi gweithio i Gymdeithas Genhadol yr Eglwys a gwasanaethodd fel Gweinidog ar y Cyd Eglwys Gymraeg Melbourne, Awstralia. Ef hefyd oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru.
Heddiw mae’n Diwtor mewn Diwinyddiaeth Gymreig yn Athrofa Padarn Sant ac yn un o feirdd preswyl Pererindod Lenyddol Llwybr Cadfan.
Canoniaid Gwaddol
Gareth Iwan Jones | Canon Gwaddol Lleyg
Yn gweithio i’r BBC am chwarter canrif, mae Gareth Iwan Jones yn Uwch Gynhyrchydd Rhaglenni Radio Cymru ym Mangor. Mae’n gyfrifol am raglenni mor amrywiol â Tudur Owen, Aled Hughes a’r Talwrn; rhaglenni cerddoriaeth gyda'r nos fel Georgia Ruth a Huw Stephen; ynghyd â chyfresi clasurol, jazz a gwerin yr orsaf. Mae Gareth hefyd yn gyfrifol am raglenni Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar Radio Cymru, gan gynhyrchu cyngherddau o gerddoriaeth glasurol a phop gyda’r Gerddorfa.
Ymhlith ei brosiectau amrywiol diweddar, bu’n cydlynu darllediadau BBC o Eisteddfod yr Urdd, yn comisiynu sioe gerdd newydd, yn recordio cyfres gomedi sgets Clonc, ac yn cynhyrchu cyngerdd Chillout wedi’i guradu gan y DJ Radio1 Sian Eleri. Mae hefyd yn uwch gynhyrchydd ar yr ail orsaf Gymraeg, BBC Radio Cymru 2.
Yn enedigol o Bwllheli ond bellach yn byw yn Llanddaniel, mae Gareth wedi bod yn briod â’i wraig Manon ers 22 mlynedd, ac mae ganddynt ddau o blant, Catrin a Gwenno. Mae Gareth yn aelod o gynulledifa Cymun Bendigaid ar Gân y Gadeirlan, ac yn mynychu gyda'i rieni, Neil ac Anona.
Lesley Hall | Canon Gwaddol Lleyg
Ganed Lesley Hall yn Essex ac mae wedi byw yng Ngogledd Cymru ers 25 mlynedd. Yn 2005, sefydlodd Lesley The Boatshed Sailmakers gyda’i llysfab Stephen. Mae Lesley bellach yn gweithio yn Iard Gychod Dinas ac yn angerddol dros wirfoddoli yn y gymuned leol.
Mae Cadeirlan Deiniol Sant yn fangre arbennig i Lesley, byth ers iddi gan ei dwyn yno gan ei rhieni i gynnau cannwyll neu eistedd ac amsugno’r llonyddwch. Recriwtiwyd Lesley fel Gwirfoddolwr y Gadeirlan gan y cyn Ddeon ac mae’n parhau i fod yn ddiolchgar iddi am y cyfle hwn.
Mae Lesley yn aelod o gynulleidfa’r Choral Holy Eucharist. Mae'n teimlo ei bod yn anrhydedd gwylaidd cael ei phenodi'n Ganon Lleyg.
Y Parch Naomi Starkey | Canon Quartus
Mae Naomi yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Padrig yng ngogledd Ynys Môn (sy’n cynnwys yr eglwys fwyaf gogleddol yng Nghymru), gyda brîff arbennig ar gyfer efengylu arloesol ledled yr ardal. Mae hi wedi cynrychioli’r esgobaeth ar Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru a hefyd yn gwasanaethu fel is-gadeirydd y Panel Dirnadaeth Daleithiol. Wedi’i hordeinio i’r offeiriadaeth yn 2015 ar ôl gyrfa ym myd cyhoeddi a newyddiaduraeth, mae’n parhau i ysgrifennu adolygiadau llyfrau i’r Church Times a nodiadau darllen y Beibl ar gyfer cyfres New Daylight y BRF, yn ogystal â chyfrannu’n achlysurol i BBC Radio Wales a Radio Cymru.
Mae’n mwynhau rhedeg gyda grŵp lleol, chwarae’r ffidil a threulio amser gyda’i theulu.