Neges Nadolig yr Archesgob
Yn ei neges Nadolig mae Archesgob newydd Cymru yn talu teyrnged i’r rhai a ddangosodd “gariad anhunanol” yn ystod y pandemig Covid.
Er gwaethaf pryder ac ansicrwydd eleni, dywed yr Archesgob Andrew John i ni weld “gweithredoedd rhyfeddol o garedigrwydd”. Mae’n diolch i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gweithwyr rheng flaen a hefyd y ffrindiau, cymdogion ac unigolion hynny sydd wedi gofalu am ei gilydd a dangos cariad ar waith.
“Drwy gydol y cyfnod gwelsom weithredoedd rhyfeddol o garedigrwydd yn ein cymunedau a’r math o benderfyniad dyfal nad yw’n tynnu sylw ato ei hun ond sy’n cyflwyno rhywbeth o gariad trawsnewidiol Duw a welir ar waith,” meddai.
“Ymddengys i mi eu bod ymysg y rhai sydd wedi tynnu agosaf at oleuni y baban Iesu a deall fod gan gariad wyneb dynol.”
Mae neges Nadolig llawn yr Archesgob yn dilyn.
Bydd yr Archesgob Andrew yn pregethu yng Nghadeirlan Bangor ar Ddydd Nadolig. Bydd y gwasanaeth Cymraeg, Cymun Bendigaid ar Gân, yn dechrau am 9.15am a’r Ewcharist Sanctaidd Corawl am 11am. Mae croeso i bawb.
Neges Nadolig
Pwy a feddyliai y byddem ni, unwaith eto, yn wynebu cyfnod o ansicrwydd wrth geisio cael gwared ar y pandemig y mae’r byd i gyd yn ei afael? Aeth blwyddyn arall heibio, ac unwaith eto rydym yn ystyried pa fath o newidiadau a allai fod o’n blaenau wrth i ni wynebu 'normal newydd' arall. Bydd llawer ohonom yn edrych yn ôl ac yn meddwl am y cyfleoedd nad ydym ni wedi’u cael, anwyliaid wedi’u colli ac achlysuron aeth heibio am byth.
Ac eto, i ddyfynnu doethineb o oes o’r blaen, mae hefyd wedi bod yn un o’r amseroedd gorau yn ogystal â’r gwaethaf. Gydol y cyfnod hwn rydym wedi gweld gweithredoedd anhygoel o garedigrwydd yn ein cymunedau a’r math o benderfyniad ystyfnig, tawel, ond sy’n dangos rhywfaint o gariad gweddnewidiol Duw mewn gweithred. Rwyf i’n dyst personol i lawenydd wynebau’n cyfarch ei gilydd ar wasanaethau Zoom, llewyrch cynnes lleisiau’n falch o gyfarfod ffrindiau a chymdogion, hyd yn oed i lawr llinellau digidol.
Mae neges y Nadolig yn atseinio’n gryf yn fy mhrofiad i fy hunan eleni: mae golau wedi disgleirio’n ddisglair mewn amseroedd tywyll ac mae gobaith wedi gafael ar yr adegau mwyaf annisgwyl. Felly yr oedd hi pan gyrhaeddodd Mair a Joseff Bethlehem. Ychydig fyddai wedi dyfalu bod hyn yn ddechrau rhywbeth newydd a gwahanol. Mae Cristnogion yn credu ac yn dathlu dyfodiad Duw i’n plith, dyma’r funud pan gamodd Duw i faterion dynol ryw a dangos beth yn union yw cariad gweddnewidiol. Pan fyddwn yn cofio fod hyn wedi digwydd trwy enedigaeth plentyn i deulu mewn rhagorsaf Rufeinig, mae mor anhygoel â'r neges o obaith ei hunan.
Rwyf eisiau diolch unwaith eto i’r rhai sydd wedi dangos y cariad anhunanol hwnnw sydd wedi cyffwrdd â bywydau pob dydd – y rhai’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau rheng flaen eraill. Rwyf eisiau diolch i’r unigolion dirifedi sy’n sicrhau nad yw ffrindiau a chymdogion yn teimlo’n ynysig nac yn cael eu hanghofio. Yn fwy na dim, rwyf eisiau diolch i’r llu o bobl ddiymhongar sydd wedi dangos beth mae cariad ymarferol yn gallu ei wneud. Mae’n ymddangos i mi eu bod nhw ymysg y rhai sydd wedi dod agosaf at oleuni’r plentyn Crist ac wedi deall fod gan gariad wyneb dynol.
Y Gwir Barchedig Andrew John
Archesgob Cymru