Archesgob Cymru i gael ei orseddu
Caiff Archesgob newydd Cymru ei orseddu mewn gwasanaeth arbennig ddiwedd mis Ebrill.
Bydd Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor, yn cael ei orseddu fel 14eg Archesgob Cymru mewn gwasanaeth cenedlaethol yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor, ddydd Sadwrn 30 Ebrill. Mae’n dilyn ei ethol yn Archesgob ym mis Rhagfyr, ar ôl gwasanaethu fel Esgob Bangor ers 2008.
Yn ystod y gwasanaeth caiff yr Archesgob a’i gyd Esgobion eu cyfarch gan bobl ifanc o bob rhan o Gymru fydd yn dod â’u geiriau o anogaeth a gweddi dros weinidogaeth yr Archesgob a’r Eglwys yng Nghymru i gyd.
Penllanw’r gwasanaeth fydd gorseddu’r Archesgob Andrew yn y Gadair Archesgobol o flaen y Brif Allor ym mhen dwyreiniol y gadeirlan. Mae’r Gadair Archesgobol (chwith) yn gopi pren o Gadair Awstin Sant yng Nghadeirlan Caergaint, ac roedd yn rhodd gan Archesgob Caergaint yn 1920 pan, adeg ei dadsefydlu, y daeth yr Eglwys yng Nghymru yn Dalaith ar wahân o’r Cymun Anglicanaidd. Bydd y Gadair yn aros yng Nghadeirlan Bangor drwy gydol cyfnod yr Archesgob Andrew yn ei swydd fel Archesgob.
Bydd y gadeirlan yn llawn o sŵn cerddoriaeth, emynau ac anthemau drwy gydol y gwasanaeth, gan cynnwys trefniant newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Paul Mealor o farddoniaeth Gymraeg o’r oesoedd canol a geiriau o’r Beibl.
Bydd gwesteion o fywyd gwleidyddol, diwylliannol a dinesig Cymru yn ymuno â chynrychiolwyr o eglwysi Cymru a’r Cymun Anglicanaidd.
Bydd y gwasanaeth yn cychwyn am 2.30pm ac am y tro cyntaf caiff gorseddu Archesgob Cymru ei ffrydio’n fyw ar y cyfryngau cymdeithasol i alluogi pawb i ymuno.
Darlledir uchafbwyntiau’r gwasanaeth ddydd Sul, 1 Mai, ar y rhaglen Celebration ar BBC Radio Wales am 7.30am (a’i ailddarlledu am 7.30pm) a rhaglen Oedfa ar BBC Radio Cymru am 12.02pm.