Llyfr Grawys Archesgob Cymru
![](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/An_Easter_Book_of_Days.width-1200.jpg)
Dewiswyd llyfr newydd gan Esgob Llanelwy yn cynnwys cymeriadau stori’r Pasg yn Llyfr Grawys Archesgob Cymru am 2023.
Ysgrifennwyd An Easter Book of Days: Meeting the Characters of the Cross and Resurrection gan Gregory Cameron ac mae’n dilyn ei lyfr llwyddiannus Advent Book of Days, sy’n rhoi sylw i gymeriadau Stori’r Nadolig.
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn annog pobl i ddefnyddio An Easter Book of Days yn ystod y Grawys sy’n cychwyn ddydd Mercher y Lludw ar 22 Chwefror. Dywedodd fod y llyfr yn rhoi cyfle i fyfyrio ar neges Gristnogol y Pasg.
Dywedodd, “Mae’r llyfr hyfryd a dwfn hwn yn mynd â ni ar daith mor gyfoethog yn ei eiriad ag yw yn ei ddelweddau. Gan olrhain y cymeriadau yn stori’r Pasg, mae’r Esgob Gregory yn ein tynnu i mewn wrth i ddrama’r Un y mae ei farwolaeth a’i atgyfodiad wedi llunio hanes yn fwy na neb arall erioed. Fel bob amser gyda straeon fel hyn, mae hyn yn ymwneud ag effaith ehangach ei fywyd a hefyd sut y cyffyrddodd unigolion a dangos her a harddwch cariad Duw iddo. Os darllenwch y llyfr hwn (ac mae’n haeddu cael ei ddarllen yn agos) bydd yn cael yn union yr un effaith arnoch chi.”
![Easter 6 donkey.jpg](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/Easter_6_donkey.width-500.jpg)
Mae An Easter Book of Days yn cynnwys 25 cymeriad yn cynnwys ffigurau hanesyddol, lleoliadau hanesyddol pwysig a chyfnodau allweddol. Ymysg y cymeriadau mwyaf anarferol yw’r Ebol Asyn ar y chweched diwrnod. Yn draddodiadol, disgrifir yr Iesu fel cyrraedd Jerwsalem ar gefn asyn. Mae’r llyfr hwn yn edrych ar y proffwydoliaethau ar gyfer y digwyddiad hwn, esbonio ei le mewn hanes, ystyried y chwedlau a fu ynghlwm â’r cymeriad ac ymchwilio ei arwyddocâd posibl i ni heddiw.
Ymysg y cymeriadau eraill mae Barabbas, y gwnaeth Pilat ei ryddhau yn lle Iesu, Joseff o Arimathea, a oedd yn ôl yr hanes yn fasnachwr cyfoethog a ddaeth â Iesu i Loegr, a Veronica y dywedir iddi fod wedi sychu talcen Iesu wrth iddo gerdded i Galfaria. Mae hefyd yn cynnwys pobl a sefyllfaoedd a gysylltir yn fwy cyffredin gyda’r Pasg, fel Jwdas Iscariot, Mair Magdalen a’r Bedd Gwag.
Dywedodd yr awdur, yr Esgob Gregory: “Gobeithiaf y bydd y llyfr hwn yn ddefnyddiol i bobl wrth iddynt ddeall cymhlethdodau Stori’r Pasg. Mae mwy o gysgodion o amgylch rhai o’r cymeriadau yr ydym yn cwrdd â nhw ond mae goleuni Crist a’i ras trawsnewidiol hefyd yn amlycach.”
- Cyhoeddwyd An Easter Book of Days gan Canterbury Press ac mae ar gael am £8.99 neu o siopau llyfrau a siopau ar-lein. Mae ei awdur, Esgob Llanelwy hefyd yn galigraffydd ac ysgrifennu eiconau ac mae wedi creu’r darluniau ar gyfer y llyfr,