Archesgob Cymru yn talu teyrnged i'r Prif Weinidog
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, wedi talu teyrnged i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a gyhoeddodd ei ymddiswyddiad heddiw:
"Y mae Mark Drakeford wedi ymgymryd â'i dasg o arwain yng Nghymru mewn modd gonest, dirodres, diwyd a llawn gofal dynol ac y mae'n haeddu diolch a pharch pawb wrth iddo osod i lawr ei gyfrifoldebau. Yr ydym yn ei sicrhau ef a'i deulu o'n gweddïau a'n dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol."