Archesgob Cymru yn talu teyrnged i’r Arglwydd Rowe-Beddoe
Mae Archesgob Cymru wedi talu teyrnged i ddyn busnes amlwg ac arglwydd yn dilyn cyhoeddi ei farwolaeth.
Gwasanaethodd yr Arglwydd Rowe-Beddoe fel Cadeirydd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru am 10 mlynedd, o 2002 hyd ei ymddeoliad yn 2012.
Disgrifiodd yr Archesgob, Andrew John, ef fel dyn o dalent ac egni enfawr oedd â ffydd Gristnogol ddofn.
Dywedodd, “Gwasanaethodd yr Arglwydd Rowe-Beddoe yr Eglwys yng Nghymru yn glodwiw, gan roi ei amser a’i gefnogaeth yn ddiflino. Ymysg pethau eraill, arweiniodd adolygiad pwysig a roddodd ein cyllid ar seiliau cadarn. Roedd yn ddyn o dalent ac egni enfawr oedd yn cael ei gymell gan ei ffydd bersonol ddofn ei hun. Diolchwn am ei fywyd ac am ei ymroddiad a’i gefnogaeth i’r Eglwys ac anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at ei deulu. Bydded i David orffwys mewn hedd a chodi mewn gogoniant.”