Archesgob yn talu teyrnged i Ddug Caeredin
Ar ran yr Eglwys yng Nghymru, mae Archesgob Cymru wedi mynegi tristwch ar glywed am farwolaeth y Tywysog Philip, Dug Caeredin, ac wedi ymestyn ei gydymdeimlad dyfnaf a sicrwydd ei weddïau i Ei Mawrhydi y Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol.
Wrth dalu teyrnged i’r Tywysog Philip, dywedodd yr Archesgob, John Davies, iddo fod yn graig ym mywyd y Frenhines ac iddo fyw bywyd a wreiddiwyd mewn gwasanaeth a dyletswydd iddi hi a hefyd i eraill.
Canmolodd yr Archesgob John gynllun Gwobr Dug Caeredin a sefydlwyd ar gyfer pobl ifanc a chydnabu hefyd ddiddordeb brwd y Dug mewn materion diwinyddol.
Wrth sôn am yr hyn a ddisgrifiodd rhai fel “cellwair” y Dug, mae’r Archesgob yn credu eu bod yn dangos “safbwynt caredig a hoffus a synnwyr digrifwch praff”.
Meddai’r Archesgob John, “Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r rhain o fywyd hir, yn llawn amrywiaeth ac a wreiddiwyd mewn gwasanaeth i eraill, y genedl, y Gymanwlad a thu hwnt. Am ei ddoniau a’i dalentau, am y buddion a roddodd ei fywyd i fywydau pobl eraill, am ei ymdeimlad o ddyletswydd a galwad, ac am ei lu o nodweddion amlwg ac ardderchog, dylem ddiolch a gweddïo y caiff orffwys mewn hedd, yn rhydd o lesgedd dynol, ac mewn bywyd newydd gyda Christ.”
Teyrnged i EUB Y Tywysog Philip, Dug Caeredin
Ar ôl penderfynu hepgor yr hyn a fedrai fod wedi bod yn fywyd personol a gyrfa nodedig iawn, safodd y Tywysog Philip, Dug Caeredin, wrth ochr Ei Mawrhydi y Frenhines yn eu priodas yn Abaty Westminster yn 1947. Yno arhosodd yn ddiysgog. Er iddo ymddeol o fywyd cyhoeddus yn 2017, mae’n annychmygadwy, i ffwrdd o olwg y cyhoedd, fod ei gefnogaeth i a dros y Frenhines wedi lleihau dim wrth iddi barhau i gyflawni ei dyletswyddau swyddogol fel pennaeth y Teulu Brenhinol. Yn y ddau gylch mae’r Frenhines dros fwy na saith degawd o fywyd priodasol wedi wynebu argyfyngau dirifedi a galwadau enfawr, ac fe wnaeth Ei Uchelder Brenhinol ei chynnal a’i chryfhau drwy’r cyfan. Mae’n eithaf cyffredin y dyddiau hyn i ddisgrifio rhywun fel craig ym mywyd unigolyn arall. Yn achos y Frenhines a Dug Caeredin, mae hynny’n hollol addas.
Efallai y caiff Dug Caeredin ei gofio’n bennaf mewn ymwybyddiaeth boblogaidd a hoffter y cyhoedd yn ehangach am ddau reswm neilltuol: yn gyntaf oherwydd cynllun Gwobr Dug Caeredin, sy’n cynnig rhaglen cyflawniad ieuenctid amlycaf y byd, ac sydd wedi galluogi nifer enfawr o bobl ifanc o wahanol o wahanol gefndiroedd i ffynnu ers dechrau’r cynllun yn 1956. Yn ail, caiff ei gofio oherwydd rhai o’r sylwadau answyddogol a’r cellwair ffwrdd â hi, y daeth y Dug yn gysylltiedig â nhw dros nifer o flynyddoedd. Roedd sylwadau o’r fath yn dangos dyn ffraeth a llawn hiwmor. Gobeithir hefyd y cydnabyddir iddynt gael eu gwneud gan rywun oedd â safbwynt caredig a hoffus, hyd yn oed gan y rhai a allai fod wedi canfod rhai ohonynt yn llai gwleidyddol gywir nag y byddent yn eu hystyried yn hollol addas.
Yn llai adnabyddus yw meddwl diwinyddol ymholgar y Dug. Efallai y bydd rhai, ond efallai nid llawer, wedi clywed a darllen ‘A Windsor Correspondence’, llyfr bach o tua 80 tudalen a gyhoeddwyd yn 1984 yn cynnwys gohebiaeth rhwng y Dug a Deon Windsor bryd hynny, yr Hybarch Michael Mann. Catalydd yr ohebiaeth oedd y gwaith a gyd-ysgrifennodd Syr Fred Hoyle yn 1981 a darlith gysylltiedig 1982 ‘Evolution from Space’, ar bwnc tebygolrwydd bodolaeth Duw a tharddiad bywyd o’r gofod, wedi ei gyfeirio gan ddeallusrwydd mawr. Roedd y Dug hefyd yn feirniad nodedig, ac fel arfer adeiladol, o rai o’r pregethau a glywodd ef a’r Frenhines dros lawer o flynyddoedd.
Ychydig o enghreifftiau yw’r rhain o fywyd hir, yn llawn amrywiaeth ac wedi’i wreiddio yng ngwasanaeth eraill, y genedl, y Gymanwlad a thu hwnt. Am ei ddoniau a’i dalentau, am y buddion a ddaeth ei fywyd i fywydau pobl eraill, am ei ymdeimlad o ddyletswydd a galwad, ac am ei lawer o nodweddion amlwg ac ardderchog, dylem ddiolch a gweddïo y caiff orffwys mewn hedd, yn rhydd o lesgedd dynol, ac mewn bywyd newydd gyda Christ.
Y Frenhines a gweddill eu teulu fydd yn teimlo colli’r Dug fwyaf ac a fydd yn galaru ddyfnaf. Bydded iddynt hwythau fedru diolch am bopeth a roddodd i eraill mewn cynifer o ffyrdd a dros gynifer o flynyddoedd. Rwy’n eu sicrhau i gyd am fy nghariad a’m gweddïau i ynghyd â llawer yn yr Eglwys yng Nghymru.