Neges yr Archesgob yn cefnogi Pride Cymru
Mae Archesgob Cymru yn dweud nad oes unrhyw le ar gyfer gwahaniaethu mewn cymdeithas, yn ei neges yn cefnogi Pride Cymru y penwythnos hwn.
Dywedodd yr Archesgob Andrew John fod yr Eglwys yng Nghymru yn cynnig ei chefnogaeth lawn i gymunedau LGBT+ ledled Cymru ac yn dymuno digwyddiad diogel a hapus iddynt.
Cynhelir Pride Cymru yng Nghaerdydd ar 27-28 Awst. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://www.pridecymru.com/
Neges Archesgob Cymru
Mae’n fraint i mi fel Archesgob Cymru i gynnig fy nghefnogaeth i Pride Cymru. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cefnogi Pride Cymru am amser maith a chymerwn ran bob blwyddyn yn nathliadau’r Babell Ffydd. Mae’n bwysig fod yr Eglwys yng Nghymru yn cynnig ei chefnogaeth lawn i gymunedau LGBT+ ar draws Cymru oherwydd fod cyfiawnder yn un o nodweddion y ffydd Gristnogol ac nid oes unrhyw le ar gyfer gwahaniaethu mewn cymdeithas.
Aeth 12 mis heibio ers i’r Eglwys yng Nghymru basio Bil i alluogi gwasanaethau bendithio i gyplau o’r un rhyw yn adeiladau’r eglwys ac rwy’n ymfalchïo yn hyn. Mae fy nghydweithwyr esgobaethol a finnau yn rhoi ein cefnogaeth lawn i’n cyfeillion LGBT+.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi galw am wahardd therapi trawsnewid, ymgyrchu yn erbyn cyfraith arfaethedig yn Ghana fyddai’n cosbi pobl LGBT+ a galw ar Gynhadledd Lambeth i ail-lunio dogfen a deimlem oedd yn tanseilio urddas pobl LGBT+. Roeddwn hefyd yn hynod falch i Esgob Llanelwy ac Esgob Mynwy lywyddu mewn gwasanaeth Ewcharist Bwrdd Agored ar gyfer Cristnogion LGBT+ yng Nghymru.
Hoffwn ddymuno Pride Cymru hapus a diogel i chi. Byddaf yn cadw pawb ohonoch yn fy ngweddïau.
Archesgob Andrew John