Archesgob yn cefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol
Mae Archesgob Cymru yn annog pobl i gymryd rhan yn yr Wythnos Cymorth Cristnogol gyda gweddïau a chyfraniadau i gefnogi pobl ym Malawi.
Cynhelir yr Wythnos Cymorth Cristnogol rhwng 14-20 Mai ac eleni mae’r ffocws ar brosiectau sy’n darparu cnydau mwy gwydn i ffermwyr, tebyg i bys colomen (cajanus cajan) a’u helpu i sicrhau pris tecach am eu cynnyrch. Gwahoddir cefnogwyr i gynnal digwyddiadau gyda thema pys i godi arian.
Dywedodd yr Archesgob Andrew John (i’w weld yn y llun gyda phlanhigyn pys), “Wythnos Cymorth Cristnogol yw ein cyfle i ganolbwyntio ar ein chwiorydd a’n brodyr ym Malawi sy’n brwydro yn erbyn tlodi enbyd. Rwy’n eich annog i gefnogi eu gwaith yn eich cyfraniadau ac yn eich gweddïau fel y gall eu bywydau gael eu trawsnewid. Rhowch yn hael i apêl Cymorth Cristnogol os gwelwch ynn dda.”
Dywed Cymorth Cristnogol fod teuluoedd yn Malawi yn talu’r pris am argyfyngau byd-eang – mae bwyd, tanwydd, gwrtaith a ffioedd ysgol wedi dyblu mewn pris yn y 12 mis diwethaf ac mae ffermwyr yn gweld eu cynaeafau yn methu wrth i newid hinsawdd ddod â thywydd cynyddol gyfnewidiol.
Mae pys colomen yn gnwd gwydn a hyblyg tu hwnt, sydd hefyd yn cyfoethogi’r pridd ar gyfer cynaeafau’r dyfodol. Gall hyn arwain at newid pethau i gymunedau ym Malawi.
Bydd y Parch Andrew Sully, pennaeth interim Cymorth Cristnogol Cymru, yn annerch cynulleidfaoedd Cadeirlan Llandaf am waith yr elusen ddydd Sul yn y gwasanaethau am 9am a hefyd 11am, gyda digwyddiad Brecwast Mawr i ddilyn – croeso i bawb.
Dywedodd Andrew, “Rwy’n edrych ymlaen at y gwasanaethau hyn a chwrdd â’n cefnogwyr. Mae Wythnos Cymorth Cristnogol yn amser o lawenydd a gobaith mawr pan safwn gyda’n cymdogion byd-eang mewn ffordd gyda ffocws mawr i drechu tlodi.
“Mae ffermio yn weithgaredd symbolig tu hwnt oherwydd ei fod yn ein helpu i gofio y gall pethau bach a wnawn gyda’n gilydd dyfu i wneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i’n holl gefnogwyr am eu hymdrechion rhyfeddol; ni fedrem ei wneud hebddynt.”
Wythnos Cymorth Cristnogol
Darganfod mwy