Her 70k yr Archesgob ar gyfer Cymorth Cristnogol
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn mynd y filltir nesaf a hynny i helpu cymunedau bregus ledled y byd ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol 2024.
Mae'n cymryd rhan yn ‘70k in May’ - her i gwblhau 70 cilometr ym mha bynnag ffordd rydych chi'n ei hoffi, mewn undod ac empathi â miliynau o bobl sy'n gorfod cerdded pellteroedd maith i gael dŵr glân neu werthu eu cynnyrch.
Dywedodd Archesgob Andrew ei fod yn edrych ymlaen at yr her.
"Bob blwyddyn, yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, mae pobl ledled Cymru yn codi arian, yn gweithredu ac yn gweddïo dros eu cymdogion byd-eang i ddathlu gobaith am fyd tecach," esboniodd.
"Dwi'n gwneud 70k ym mis Mai achos mae'n ffordd wych o gefnogi'r apêl; Rwy'n mwynhau cymryd yr amser i fynd allan a myfyrio ar bethau tra hefyd yn gwneud rhywbeth ystyrlon i gefnogi eraill.
"Mae Wythnos Cymorth Cristnogol wir yn dod â phobl at ei gilydd i roi ein ffydd ar waith - ac mae pob gweddi, pob rhodd, pob gweithred yn gwneud gwahaniaeth."
Bydd yr arian a godir yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol yn helpu partneriaid y sefydliad i rymuso cymunedau bregus i ddod o hyd i ffyrdd ymarferol a chynaliadwy allan o dlodi.
Mae'r apêl eleni - o Fai 12–18 - yn canolbwyntio ar waith yn Burundi, un o'r gwledydd mwyaf poblog a thlotaf yn Affrica. Gan ddibynnu'n drwm ar amaethyddiaeth, mae hefyd yn un o'r rhai lleiaf parod wrth ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd, gan gynnwys sychder, llifogydd a thirlithriadau. Mae argyfwng costau byw byd-eang wedi dwysáu'r heriau: mae mwy na 70 y cant o'r boblogaeth yn byw mewntlodi a mwy na hanner y plant yn dioddef o ddiffyg maeth difrifol.
Wythnos Cymorth Cristnogol
Rhoddwch heddiwMae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio yn Burundi ers 1995 pan roddwyd cymorth dyngarol i bobl wrth oroesi'r gwrthdaro sifil. Nawr, ochr yn ochr â phartneriaid lleol, mae'r sefydliad yn helpu i sefydlu Cymdeithasau Cynilo a Benthyciadau Pentref (VSLAs). Mae'r grwpiau hyn a arweinir gan y gymuned yn golygu y gall pobl arbed a benthyca arian, gan wneud busnesau bach yn bosibl, cynnig incwm dibynadwy ac amrywiol fel y gall teuluoedd fwyta'n rheolaidd, cael meddyginiaeth pan fydd ei angen arnynt, ac adeiladu cartrefi mwy diogel.
Mae Aline Nibogora, 35 oed, yn gadeirydd VSLA sy'n cefnogi tua 25 o deuluoedd mewn pentref anghysbell, yn Nhalaith Makamba. Dihangodd Aline o briodas dreisgar gan ganfod ei hun yn byw ar y strydoedd yn cardota am le i aros.
Newidiodd ei bywyd pan aeth i weithdy cymunedol tri diwrnod a ariannwyd gan Cymorth Cristnogol. Yn dilyn hyn a gyda benthyciad cychwynnol bychan, dechreuodd Aline werthu afocados a chnau daear yn lleol. Mae hi bellach yn gyfanwerthwr bwyd ac yn byw ar lain ei hun o dir lle mae'n adeiladu cartref i'w theulu. Yn ystod y pum mlynedd nesaf mae hi'n gobeithio ehangu,ac un diwrnod mae’n gobeithio gallu prynu melin. Bydd hyn yn darparu ffynhonnell incwm heb fod angen cludo nwyddau trwm dros bellteroedd hir.
Cadeirydd newydd
Cyhoeddwyd bod Arweinydd Ardal Bro ar gyfer Gorllewin Caerdydd, y Parch Andrew Sully, wedi ei ddewis yn Gadeirydd newydd Pwyllgor Ymgynghori Cenedlaethol Cymorth Cristnogol Cymru.
Cymorth Cristnogol ydy asiantaeth ddyngarol a datblygiad rhyngwladol eglwysi Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, ac mae’r Pwyllgor Cenedlaethol yn gwasanaethu fel corff cynghori i’w Bwrdd Ymddiriedolwyr, yn ogystal ag ymgysylltu ag eglwysi, cefnogwyr a sefydliadau eraill yng Nghymru er mwyn cefnogi gwaith yr elusen mewn cymunedau bregus ledled y byd.
Mae Andrew, a fu’n gwasanaethu’n ddiweddar fel Pennaeth Dros Dro y mudiad yng Nghymru, yn gadeirydd Grŵp Cymorth Cristnogol Eglwys Gadeiriol Llandaf a bydd hefyd yn ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Cymorth Cristnogol.
Cafodd Andrew ei hyfforddiant yng Ngholeg Queen’s, Birmingham, ynghyd â’i wraig, Mary, sy’n Esgob Llandaf – ac mae’r ddau wedi bod yn gefnogwyr brwd Cymorth Cristnogol ers blynyddoedd lawer.
Cyn ymgartrefu yn Llandaf, bu Andrew yn offeiriad, yn gweithio ym mhump o chwe esgobaeth Cymru ac yn ystod y cyfnod hwnnw, fe fyddai’n aml yn derbyn rôl swyddog ecwmenaidd, yn hyrwyddo’r gydberthynas rhwng eglwysi o wahanol enwadau. Cafodd secondiad am gyfnod gyda Cytûn/Eglwysi Ynghyd yng Nghymru fel swyddog maes yn y gogledd.
Bu Andrew yn ‘ymgyrchydd’ hunanhonedig i Cymorth Cristnogol dros y 30 mlynedd ddiwethaf, gan gymryd rhan mewn ymgyrchoedd allweddol a gweithgareddau codi arian. Mae’r rhain wedi cynnwys seiclo o Lundain i Copenhagen ar gyfer trafodaethau COP yn 2009, Llundain i Baris a Lôn Las Cymru ac, yn fwy diweddar, cerdded cestyll Cymru yn y gogledd, a llwybr pererinion Llandaf i Benrhys sydd ar droed ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol 2024.
Meddai Andrew, sy’n ysgwyddo rôl y Cadeirydd gan y Parch Nan Powell Davies: “Fy ngobaith ydy dod â’m gwybodaeth a phrofiad o Gymru a’i chymunedau i’r rôl hon, a dwi’n edrych ymlaen at gefnogi Mari a thîm Cymorth Cristnogol Cymru, yn ogystal â bwrdd a staff ehangach Cymorth Cristnogol.
“Mae’r dasg o ddileu tlodi mor berthnasol ag erioed yn y cyfnod hwn o argyfwng hinsawdd, ac mae Cymorth Cristnogol yn allweddol i bontio rhwng cymunedau sydd dan dlodi yn fyd-eang ac eglwysi yng Nghymru a gweddill y DU.”
Dywedodd Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, Mari McNeill: “Daw Andrew â gwybodaeth helaeth o Gymru a’i chymunedau i’r rôl hon.
“Rydyn ni wrth ein boddau i barhau i allu gweithio gydag e i ymgysylltu â chefnogwyr, eglwysi a mudiadau eraill er mwyn codi arian ac ymgyrchu yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi ac anghyfiawnder yn fyd-eang.”
Daw’r datganiad ar drothwy Wythnos Cymorth Cristnogol, 12-18 Mai, lle mae cannoedd o wirfoddolwyr a chymunedau yn paratoi i weithredu ar dlodi yn fyd-eang, hyn trwy amryw o heriau a digwyddiadau cymunedol codi arian.