Archesgob yn rhoi help llaw i lanhau traeth i nodi Coroni’r Brenin
Er y bydd rhai ohonom yn edrych ymlaen at ddiwrnod i gysgu’n hwyr a pheidio mynd i’r gwaith i ddathlu Coroni’r Ei Fawrhydi y Brenin ar Mai 8fed lawr ar lan y môr fydd Archesgob Cymru. Nid am ddiwrnod i’r brenin mewn arcêd ddifyrion neu’n gwneud cestyll tywod ond yn codi sbwriel am nifer o oriau, fel rhan o’r Help Llaw Mawr, y fenter gwirfoddolwyr cymunedol a drefnwyd gan y Together Coalition i nodi'r Coroni. Fe wnaethom holi’r Archesgob Andrew John i ganfod mwy.
Felly Archesgob pam ydych chi’n colli’r cyfle ychwanegol yma i gael brecwast yn y gwely?
Wel, mae’n wych cael gŵyl banc ychwanegol ac rwyf eisiau manteisio i’r eithaf ohono. Fel Archesgob mae fy nyddiadur yn llawn dop gyda chyfarfodydd, pwyllgorau ac, wrth gwrs, wasanaethau eglwys. Un peth nad wyf yn cael llawer o amser ar ei gyfer y dyddiau hyn yw gwirfoddoli. Eto drwy fod yn yr eglwys rwy’n ymwybodol iawn o ba mor werthfawr yw ein gwirfoddolwyr – cawsom ein bendithio gyda chynifer ohonynt ac rydym yn wirioneddol ddibynnu arnynt i helpu cadw ein heglwysi i weithredu, yn ogystal â’n banciau bwyd, hybiau cymunedol a llu o brosiectau cymdeithasol. Maent yn hollol wych a rydym yn ddiolchgar iawn am eu holl waith.
Mae cyfrinach nad yw llawer o wirfoddolwyr yn gwybod amdani sef hyn: pan fyddwch yn rhoi, rydych bob amser yn cael mwy yn ôl. Dyna pam fod gwirfoddoli yn rhodd mor wych i’w dathlu, pam fod rhoi yn rhan mor bwysig o’n ffydd Cristnogol a pham fod gŵyl Help Llaw Mawr yn ffordd berffaith i nodi coroni y Brenin. Rwy’n credu fod hynny’n werth colli’r brecwast achlysurol yn y gwely ar ei gyfer.
Rydych wedi dewis gwirfoddoli yn glanhau’r traeth yn Ninas Dinlle ym Mae Caernarfon. Onid yw braidd yn gynnar yn y tymor i wneud hynny?
Dim o gwbl! Rwyf wrth fy modd bod tu allan, beth bynnag y tywydd, a threulio amser ar draethau drwy gydol y flwyddyn, felly mae hon yn ffordd o gyfuno rhywbeth rwy’n ei fwynhau gyda rhywbeth fydd o fantais i eraill – rwy’n credu mai dyma’r allwedd i wirfoddoli llwyddiannus. Mewn gwirionedd, dechrau Mai yw’r amser delfrydol i lanhau traethau. Bydd stormydd y gaeaf a’r gwanwyn drosodd – gobeithio – ac felly byddwn yn casglu’r ysgyrion mewn pryd ar gyfer i bobl gyrraedd am eu gwyliau yn yr haf.
Pam Dinas Dinlle? A yw’n draeth neilltuol o fudr?
Ymhell o fod. Fel cymaint o arfordir Cymru, mae’n lle gwyllt a hardd – yn wir mae wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am ei gynefinoedd naturiol gwerthfawr. Gwaetha’r modd heddiw, nid oes unlle heb ei gyffwrdd gan y sbwriel rydym yn ei gynhyrchu ac mae’n holl draethau yn dangos straen y llygredd plastig ar ein moroedd. Gan fod ar yr arfordir gorllewinol, caiff traeth Dinas Dinlle ei daro’n arbennig o galed gan y prif wyntoedd yn cario sbwriel i’r traeth. Dyma ystadegyn brawychus: mae o leiaf 14 miliwn tunnell fetrig o blastig yn cyrraedd ein moroedd bob blwyddyn, a phlastig yw 80% o’r holl sbwriel morol, yn ôl yn yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Mae plastig yn lladd bywyd morol – amcangyfrifodd y Cenhedloedd Unedig ei fod yn lladd tua miliwn o adar môr a 100,000 o famaliaid môr a chrwbanod bob blwyddyn.
Felly pan fyddwn yn glanhau’r traeth byddwn yn codi poteli plastig, rhwydi, cartonau a allai fod eu taflu filoedd o filltiroedd i ffwrdd, yn ogystal â phapurau melysion, pecynnau creision, blychau sglodion, caniau ac yn y blaen y gallai ymwelwyr fod wedi eu gadael. Efallai nad yw’r hyn a wnawn yn ddim mwy na “diferyn yn y môr” ond gobeithiwn y bydd traeth glanach yn ei gwneud yn fwy diogel i’r bywyd gwyllt o gwmpas, yn ogystal â chreu argraff well ar ymwelwyr newydd. Gobeithio y bydd ein hymdrechion yn ysbrydoli pobl i gadw’r traeth yn lân ac i fynd â’u sbwriel eu hunain adre gyda nhw ond efallai hefyd rywbeth na wnaethant nhw ei daflu hefyd– pa wahaniaeth a wnâi hynny! Ac wrth gwrs rydym hefyd yn gobeithio y byddwn yn codi ymwybyddiaeth o lygredd plastig a’r angen i atal ac osgoi defnyddio plastig yn y lle cyntaf.
Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’r sbwriel a gasglwch?
Byddwn yn sicrhau y byddwn yn cael gwared ag ef yn gyfrifol. Mae hynny’n golygu ailgylchu cymaint ag y fedrwn fel nad yw’n cyrraedd yr arfordir eto.
Mae’n swnio fel y gallai fod yn ddiwrnod hwyliog a chynyrchiol. A all unrhyw un gymryd rhan?
Yn bendant! Rydym yn cwrdd yn y maes parcio cyntaf yn Ninas Dinlle ar 8 Mai a byddwn yn glanhau’r traeth rhwng 10am-12pm. Paratowch ar gyfer y tywydd â dod ag esgidiau cadarn sy’n dal dŵr a menyg garddio trwchus gyda chi i gasglu sbwriel.
Neu beth am drefnu eich sesiwn glanhau traeth eich hun yn agos at eich cartref? Os ydych eisiau gwneud hynnu neu gymryd rhan mewn unrhyw rhaglen wirfoddoli arall ar gyfer yr Help Llaw Mawr, edrychwch ar y wefan lle gallwch weld beth sy’n digwydd a chofrestru eich digwyddiad. Gadewch i ni ei wneud yn ddiwrnod i’w gofio i nodi dechrau teyrnasiad y Brenin newydd.
Y Help Llaw Mawr
Cofrestrwch yma