Archesgob yn uno gyda draig i gynnau gŵyl
Bydd Archesgob Cymru yn uno gyda draig fis nesaf i lansio gŵyl a gynlluniwyd i ailgynnau bywyd cymunedol mewn pentref yn Nyffryn Conwy.
Trefnir Gŵyl Garrog gan bentrefwyr yn Nolgarrog sydd eisiau cadw traddodiadau, iaith, gwybodaeth a thirwedd y pentref yn fyw. Fe’i hagorir yn swyddogol gan yr Archesgob Andrew John a bydd yn cynnwys plant ysgol lleol yn ail-adrodd stori y Garrog Dolgarrog, draig chwedlonol y pentref.
Cynhelir yr ŵyl, a drefnir gan Grŵp Cymunedol Caru Dolgarrog, ar 10 Medi, rhwng 12-6pm, ar safle’r Parc Antur.
Dywedodd y Parch Stuart Elliott, ficer Eglwys y Santes Fair sy’n rhan o Ardal Gweinidogaeth Bro Gwydyr, y cafodd y syniad am yr ŵyl ei ffurfio flwyddyn yn ôl.
“Daeth grŵp o bentrefwyr Dolgarrog at ei gilydd i gynnal sioe archif o luniau o fywyd yn y pentref. Fe wnaeth y diddordeb yn y digwyddiad bach hwn a’i lwyddiant yn Eglwys y Santes Fair ddechrau trafodaeth am sut y gallem ailgynnau rhai o’r digwyddiadau a chyfleoedd cymunedol gwych nad oedd yn bodoli mwyach oherwydd bod llawer o seilwaith y pentref wedi ei gau.
“Cafodd y prosiect yma ei groesawu gan gymuned yr eglwys groesawu a wnaeth gynnig lle yn yr eglwys ar gyfer digwyddiadau. Yn fuan iawn cafodd Grŵp Cymunedol Caru Dolgarrog ei ffurfio ac ynghyd â’n partneriaid masnachol, diwydiant, eglwys ac addysgol, rydym yn cynnal yr ŵyl fach yma ar safle’r Parc Antur. Caiff stori y Garrog ei hailadrodd drwy gerddoriaeth a pherfformiad fel catalydd ar gyfer adfywio’r gymuned. Byddwn hefyd yn annog rhai sy’n dod i rannu eu syniadau a’u sylwadau, gobeithion a breuddwydion ar gyfer dyfodol Dolgarrog. Gobeithio y bydd hwn y cyntaf o lawer o ddigwyddiadau blynyddol a gyflwynir ‘ar gyfer y pentref gan y pentref’.”
Dywedodd yr Archesgob Andrew John, “Mae stori y Garrog ac egni’r gymuned leol wedi creu cyfraniad gwych o greadigrwydd a gobaith. Bydd yr ŵyl hon yn dangos potensial menter ac egni y gymuned ac rwyf wrth fy modd i fod wedi cael gwahoddiad i ddod yma. Llongyfarchiadau mawr i bawb sy’n ymwneud â hyn – mae’n ysbrydoliaeth go iawn.”
Mae’r ŵyl ar agor i bawb.