Archesgob i annerch Aelodau Seneddol ac arglwyddi mewn gwasanaeth Dydd Gŵyl Dewi

Bydd Archesgob Cymru yn annerch Aelodau Seneddol ac arglwyddi mewn gwasanaeth i nodi Dydd Gŵyl Dewi ym Mhalas Westminster ar 1 Mawrth.
Yr Archesgob Andrew John yw’r pregethwr gwadd yng ngwasanaeth traddodiadol Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer Aelodau Seneddol a gynhelir yng Nghapel St Mary Undercroft yn y Palas. Hwn fydd y tro cyntaf i’r gwasanaeth gael ei gynnal ers pandemig Covid 19.
Dywedodd yr Archesgob Andrew, “Braint yw dathlu bywyd a gweinidogaeth Dewi, nawddsant Cymru, yn Nau Dŷ’r Senedd. Bydd gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn ymuno â ni i fyfyrio ar arwyddocâd yr un Cristion hwn y mae ei fywyd a’i addysgu wedi meithrin hunaniaeth Gymreig am fwy na mil o flynyddoedd. Byddwn yn gweddïo’n arbennig dros ein harweinwyr gwleidyddol sy’n llunio gwerthoedd a blaenoriaethau ein cenedl ymhell i’r dyfodol.”

Arweinir gwasanaeth Dydd Gŵyl Dewi gan y Parch Tricia Hillas, Caplan Llefarydd Tŷ’r Cyffredin. Bydd plant o Ysgol Gymraeg Llundain yn canu cân Gymraeg a bydd y gynulleidfa yn canu emynau Cymraeg, yn cynnwys Cwm Rhondda. Darllenir y gweddïau gan Glyn Wise, ordinand yn Esgobaeth Llanelwy, a bydd y delynores Manon Browning yn chwarae hwiangerdd enwog Suo Gân. Darllenir darnau o’r Beibl gan Fay Jones, AS Brycheiniog a Maesyfed a Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth, a Beth Winter, AS Cwm Cynon. Bydd Sarah Green AS yn darllen Emyn Dydd Gŵyl Dewi.
Daw’r Archesgob â’r gwasanaeth i ben gyda bendith a bydd casgliad ar y diwedd ar gyfer Banc Bwyd Cadeirlan Bangor.
Gweddi dros Dewi Sant
