Archesgob yn annog cefnogaeth i apêl Cymorth Cristnogol
Mae Archesgob Cymru yn annog eglwysi i gefnogi apêl frys Cymorth Cristnogol ar gyfer y Dwyrain Canol wrth inni agosáu at flwyddyn ers dechrau'r gwrthdaro diweddaraf.
Mae cefnogwyr hael Asiantaeth Datblygiad Rhyngwladol wedi codi dros £2 miliwn i helpu pobl sy’n gaeth i’r sefyllfa ar draws Israel, Gaza a’r Llain Orllewinol
Ond mae angen mwy er mwyn parhau i ddod â gobaith a chefnogaeth i’r miliynau o bobl sy’n ei chael hi’n anodd goroesi a gweddïo dros heddwch. Mae Cymorth Cristnogol yn gofyn i’w cefnogwyr i roi, gweithredu a gweddïo – gydag ail-lansiad yr apêl brys, gwylnos ar-lein a chyfarfodydd gweddi fisol.
Dywed yr Archesgob, Andrew John, “Rwy’n annog ein holl eglwysi i gefnogi’r ymgyrch hon gan Gymorth Cristnogol yn hael, trwy roi, ymgysylltu a gweddïo.
“Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddod â’r gwrthdaro ofnadwy hwn i ben, trwy geisio cyfiawnder, a thrwy wneud heddwch a chymod yn y rhanbarth yn realiti.”
Esboniodd Mari McNeill, pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, “Mae ein cefnogwyr wedi bod yn anhygoel gan godi mwy na £2.2 miliwn mor belled sydd wedi ein helpu i gyrraedd dros 800,000 o bobl yn Gaza trwy ein partneriaid lleol ag arian i deuluoedd sydd wedi eu dadleoli; cefnogaeth feddygol trwy glinig iechyd teithiol; pethau angenrheidiol sylfaenol fel bwyd, dŵr, blancedi, matresi a llochesi, gan gynnwys sefydlu gwersyll ar gyfer pobl sydd wedi eu dadleoli yn fewnol ag anableddau.
“Mae Cymorth Cristnogol hefyd wedi bod yn gweithio â chorff gwasanaeth sifil Israelaidd â’i leoliad yn Tel Aviv, yn eu cefnogi i ddarparu llefydd diogel i gyfarfod wedi’r trawma o Hydref y 7fed blwyddyn ddiwethaf.
“Ond mae’r angen yn anferth ac mae mwy gallwn ni wneud, dyma pam rydym yn ail-lansio ein apêl Gaza. Gyda chefnogaeth a gweddïau ein cefnogwyr, gall a bydd Cymorth Cristnogol yn cyrraedd mwy o bobl â’r cymorth sydd eu hangen arnynt.”
Esboniodd William Bell, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth Cymorth Cristnogol y Dwyrain Canol, er bod cymorth yn cyrraedd pobl, yr unig ffordd i weithio tuag at heddwch cynaliadwy a helpu pobl i ail-adeiladu eu bywydau, yw trwy gadoediad parhaol.
Ychwanegodd, “Dylai pob arweinwr gwlad â dylanwad alw am gadoediad parhaol i ddod i rym ar unwaith. Dyma’r unig opsiwn difrifol sydd gennym o hyd er mwyn osgoi mwy o farwolaethau sifiliaid a’r trychineb dyngarol cynyddol hon.”
Mae Cymorth Cristnogol yn galw ar gefnogwyr i roi, gweithredu a gweddïo mewn undod â’r cymdogion byd-eang.
Rhowch
- I Apêl Gaza gan gynnal casgliad, archebu amlenni neu yn uniongyrchol trwy ein gwefan. Gall £5 ddarparu blancedi cynnes i deulu sydd wedi eu dadleoli a gall £20 fwydo teulu am wythnos gan ddarparu parsel bwyd llawn hanfodion fel olew a chaws.
Gweithredwch
- Trwy arwyddo deiseb Cymorth Cristnogol i Lywodraeth y DU, a chysylltwch â'ch AS, i’w annog i gefnogi cadoediad.
- Gan ymuno â gweminar led y DU, A Just Peace: webinar and workshop, ar Fedi 16 a 17, o 7.30yh. Nod y fenter yw ateb y cwestiynau efallai bod pobl yn teimlo’n bryderus amdanynt ynghylch heddwch yn Israel a Palesiteina. I ymuno â’r gweminar, ewch i: https://www.christianaid.org.uk/get-involved/campaigns/just-peace-webinar-and-workshop.
Gweddiwch
- Mae Cristnogion led y DU wedi bod yn cymryd rhan mewn galwadau Zoom rheolaidd sy’n cael eu cynnal ar y 24ain o bob mis. Mae cyfarfod nesaf Prayers for Peace ar ddydd Mawrth, Medi 24, o 7-8yh a bydd cyfranogwyr yn clywed gan Nadia Giol ac Anat Asia sy’n trefnu grwpiau i Iddewon a Palestiniaid Isrelaidd yn y Galilea ble maent yn byw, ac ar-lein i bawb led led y byd. I ymuno, ewch i: Prayers for Peace in the Middle East - Christian Aid.
- Ymunwch â gwylnos Cymorth Cristnogol am 8yb ar Ddydd Llun, Hydref 7 Cofrestrwch trwy’r gwefan.
Nodwch, bydd pob digwyddiad yn Saesneg.