Archesgob yn cefnogi Apêl DEC Affganistan
Mae Cymorth Cristnogol wedi ymuno ag elusennau cymorth blaenllaw eraill yng Nghymru i lansio apêl codi arian ar y cyd wrth i gynnydd trychinebus mewn diffyg bwyd ysgubo ar draws Affganistan, gydag wyth miliwn o bobl yn wynebu newyn dros fisoedd y gaeaf. Mae plant eisoes yn marw ac mae miliwn yn fwy mewn perygl.
Mae DEC (Disasters and Emergency Committee) wedi lansio apêl er mwyn ariannu elusennau sydd eisoes yn gweithio yn y wlad, cyn cynnwys Cymorth Cristnogol.
Meddai yr Archesgob Cymru, Andrew John, “Rwy’n eich annog i ystyried rhoi yn hael.
“Yn ystod cyfnod yr Adfent, pryd yr ydym yn paratoi ein hunain i ddathlu dyfodiad Mab Duw i’n byd toredig, rwyf am eich gwahodd i rannu’r cariad y mae Duw wedi ei dywallt arnom ni, gyda’n brodyr a’n chwiorydd yn Affganistan.
“Mae sychder drwg iawn, degawdau o anghydfod a phandemig Covid-19 i gyd wedi creu’r argyfwng sydd yn amgylchu’r wlad. Mae 22 miliwn eisoes yn wynebu diffyg bwyd.
Os byddwn yn gweithredu nawr, gallwna achub nifer o fywydau.”
Meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, “Mae'r sefyllfa yn Affganistan yn erchyll tu hwnt. Mae miliwn o blant mewn perygl o farw'r gaeaf hwn, felly rhaid i ni weithredu'n gyflym.
“Mae Cymorth Cristnogol ac elusennau eraill eisoes yn gweithio yn y wlad, ond mae angen chwistrelliad enfawr o arian er mwyn arbed bywydau'r gaeaf hwn. Os gwelwch yn dda, rhowch yr hyn y a allwch chi."