Archesgob yn gwirfoddoli am yr Help Llaw Mawr
Bydd Archesgob Cymru ymysg miloedd o wirfoddolwyr ar draws y Deyrnas Unedig fydd yn cymryd rhan yn yr Help Llaw Mawr ddydd Llun (8 Mai).
Bydd yr Archesgob Andrew John yn ymuno i lanhau traeth yng ngogledd Cymru i godi ymwybyddiaeth o effaith llygredd plastig yn ein moroedd.
Mae’r Help Llaw Mawr, a gynhelir ar Ŵyl y Banc dydd Llun 8 Mai, yn un o’r prosiectau swyddogol ar Benwythnos y Coroni. Mae’n ymgyrch enfawr i ymgysylltu â’r cyhoedd i hyrwyddo, hybu ac arddangos gwirfoddoli ar ddydd Llun 8 Mai ac wedyn.
Mae miloedd o bobl yn gwirfoddoli yn y Deyrnas Unedig bob dydd. Mae’r Help Llaw Mawr yn ceisio sicrhau newid sylweddol mewn gwirfoddoli ar draws y wlad drwy ei gwneud yn rhwydd i wirfoddolwyr adnabod cyfleoedd a chymryd rhan. Gan adeiladu ar y ffenomen gwirfoddoli a welwyd yn ystod y pandemig, nod yr Help Llaw Mawr yw ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wirfoddolwyr, yn arbennig rai o gefndiroedd nad ydynt wedi gwirfoddoli yn draddodiadol.
O gofio am bwysigrwydd cymunedau ffydd fel ffynonellau gwirfoddoli a gwaith elusennol yn y Deyrnas Unedig ac ymroddiad hir-sefydlog EF y Brenin i hyrwyddo cydweithio rhyng-ffydd, bydd gan sefydliadau ffydd rôl sylweddol yn yr Help Llaw Mawr.
Bydd yr Archesgob yn ymuno i lanhau traeth Dinas Dinlle ym Mae Caernarfon rhwng 10am-12.
Mae cynlluniau gwirfoddoli eraill gan gymunedau ffydd ar draws y Deyrnas Unedig yn cynnwys prosiect garddio cymunedol rhyng-ffydd yng Ngogledd Iwerddon a pharatoi bwyd poeth a gwasanaeth yn y Gurdwara Canolog yn Llundain, ymysg llawer o ddigwyddiadau eraill.
Bydd yr Help Llaw Mawr yn galluogi cymunedau o bob ffydd a dim ffydd i ddod ynghyd a thalu teyrnged i oes Ei Fawrhydi o wasanaeth cyhoeddus a rhoi sylw i rôl ganolog gwirfoddoli yn ein stori genedlaethol.
Dywedodd yr Archesgob Andrew, “Mae gan wirfoddolwyr gyfrinach nad yw llawer o bobl yn gwybod amdani sef: pan roddwch yn rhydd, rydych bob amser yn cael mwy yn ôl. Dyna pam fod gwirfoddoli yn rhodd mor wych i’w dathlu, pam fod rhoi yn rhan mor bwysig o’n ffydd Gristnogol a pham mai’r ŵyl Help Llaw Mawr yw’r ffordd berffaith i nodi Coroni ein brenin.”
Dywedodd Brendan Cox, Cyd-sefydlydd Together Coalition, sy’n trefnu’r Help Llaw Mawr, “Mae’r gefnogaeth gan fwy na 30 arweinwyr grwpiau ffydd a chredo, yn cynrychioli miliynau o bobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, yn adlewyrchu’r gefnogaeth enfawr sydd i’r Help Llaw Mawr. Mae cymunedau ffydd y Deyrnas Unedig yn rhagori mewn gwirfoddoli a dod â phobl ynghyd. Dyna pam fod yr hyn y gallant ei gyfrannu i’r Help Llaw Mawr mor gyffrous. Mae ymyriad heddiw gan uwch arweinwyr o grwpiau ffydd a chredo y Deyrnas Unedig, yn cwmpasu’r pedair cenedl, yn alw i weithredu ar gyfer y cymunedau ffydd i adeiladu’r genhedlaeth nesaf o wirfoddolwyr.”
- Mae ap Help Llaw Mawr ar gael yn www.thebighelpout.org.uk.
- Darllenwch flog yr Archesgob am y glanhau traeth.