Archesgob Cymru i ymddeol ym mis Mai
Bydd Archesgob Cymru, John Davies, yn ymddeol ym mis Mai ar ôl pedair blynedd yn arweinydd yr Eglwys yng Nghymru.
Bu’r Archesgob John, a fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 68 yn fuan, yn gwasanaethu hefyd fel Esgob Abertawe ac Aberhonddu am yr 13 blynedd diwethaf. Yn 13eg Archesgob Cymru, ef hefyd oedd yr Esgob Abertawe ac Aberhonddu cyntaf i gael ei ethol yn Archesgob. Bydd yn ymddeol o’r ddwy swydd ar 2 Mai.
Yn ystod ei gyfnod fel Archesgob, arweiniodd John Davies yr Eglwys yng Nghymru wrth iddi gyrraedd ei chanmlwyddiant y llynedd a hefyd wrth iddi wynebu un o’i heriau anoddaf wrth ymateb i’r pandemig coronafeirws.
Talodd Archesgob Caergaint ac arweinydd y Cymundeb Anglicanaidd, Justin Welby, deyrnged i’w ddoethineb a’i allu, gan ei ddisgrifio fel “cydweithiwr werthfawr”.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd yr Archesgob John, “Mae arwain yn fraint ac yn her. Yn ystod fy nghyfnod yn Esgob ac Archesgob rwyf wedi ceisio defnyddio’r cyntaf ac wynebu’r ail gyda gweledigaeth, dewrder ac amynedd, gan obeithio bob amser y byddwn yn sicrhau bod yr Eglwys yn fwy parod, ei bod yn cael ei deall yn well, ei bod yn llai o ddirgelwch ac yn fwy croesawus. Dan yr amgylchiadau eithriadol o anodd presennol, fe wnaeth y cydymdeimlad, dychymyg a’r blaengaredd y mae rhai wedi eu dangos wrth ymateb iddynt argraff anferth arnaf, gan lwyddo i wneud yr Eglwys yn fwy hygyrch ac, os caf ddweud, yn fwy perthnasol.
Ar hyd fy nghyfnod yn y weinidogaeth, rwyf wedi bod yn ffodus o gael cefnogaeth llawer o gydweithwyr lleyg ac ordeiniedig gwerthfawr, o fewn yr Eglwys a’r tu allan iddi, a theulu cariadus iawn a llawn cydymdeimlad.
Rwy’n diolch iddyn nhw i gyd am y gefnogaeth honno, a hebddi, byddai’r dasg wedi bod bron yn amhosibl.”
Dangosodd yr Archesgob John ddiddordeb dwfn mewn materion cyfiawnder cymdeithasol, gan fynegi barn ar lawer o faterion gan gynnwys digartrefedd a thai, problemau gwledig, marw cynorthwyedig, rhoi organau a thlodi. Bu’n gadeirydd ar Housing Justice Cymru ers iddo gael ei lansio yn 2016, ac mae wedi gwasanaethu fel ymddiriedolydd Cymorth Cristnogol, gan gadeirio ei Bwyllgor Cenedlaethol yng Nghymru am bron i naw mlynedd o 2010.
Ar yr un pryd, mae wedi rhoi pwyslais ar yr angen i’r Eglwys yng Nghymru adfywio ei gweledigaeth, ei delwedd a’i diben, i groesawu newid a, trwy wneud hynny, anelu at dwf. Mae wedi annog yr aelodau i fod yn fwy uchelgeisiol a dewr wrth efengylu ac fe oruchwyliodd lansiad Cronfa Efengylu bwysig o £10m ar gyfer prosiectau wedi eu hanelu at gyflawni gwell ymgysylltu gyda bywyd Cristnogol a’r Efengyl Gristnogol a dealltwriaeth lawnach ohonynt.
Teyrngedau
Disgrifiodd Archesgob Caergaint, Justin Welby, yr Archesgob John fel “cydweithiwr gwerthfawr” yn y Cymundeb Anglicanaidd. Dywedodd, “Rwyf wedi mwynhau’n fawr iawn weithio gyda John yn ystod ei gyfnod fel Archesgob Cymru. Rwyf wedi gwerthfawrogi’n fawr ei ddoethineb, ei angerdd am yr Efengyl ac efengyliaeth, a’i allu a’i bwyll wrth ddelio gyda sefyllfaoedd a all yn aml fod yn gymhleth.
Bu’n gydweithiwr gwerthfawr nid yn unig fel cyd Archesgob yn y Deyrnas Unedig ond hefyd yn y Cymundeb Anglicanaidd yn ehangach.
“Roedd y pandemig Coronafeirws wedi golygu na fedrais ymweld fis Ebrill diwethaf ar gyfer canmlwyddiant dadsefydlu’r Eglwys yng Nghymru ond rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd modd dod i Gymru cyn i John ymddeol i ddiolch iddo yn bersonol am ei gefnogaeth a’i gyngor doeth.
“Hoffwn ddymuno’n dda i John a’i wraig Jo wrth iddynt symud i ymddeoliad a gweddïo y byddant yn parhau i ffynnu. Gwn faint y bydd yr Eglwys yng Nghymru a’r Cymundeb yn ehangach yn ei golli.”
Talodd Esgob Bangor, Andrew John, sydd yn uwch esgob yr Eglwys, deyrnged i arweinyddiaeth yr Archesgob John. Dywedodd, “Mae John wedi bod yn gadarn a phendant yn yr amseroedd anodd iawn yma, gan gynnig sefydlogrwydd yr oedd mawr ei angen a llais cysurlon, i’r rhai yn yr Eglwys ac yn y gymuned ehangach.
“Ar ran ei gyd-esgobion, rwy’n diolch iddo am yr oruchwyliaeth y mae wedi ei rhoi i ni ac yn anfon ein dymuniadau gorau un am ymddeoliad hir a hapus.”
Dywedodd prif weithredwr yr Eglwys, Simon Lloyd, “Daeth yr Archesgob John â’i brofiad eang, ei wybodaeth enfawr, ei hiwmor a’i gariad dwfn at yr Eglwys i’w swydd. Bu’n eiriolwr llawn perswâd dros newid ac arweiniodd yr Eglwys i ddynodi a rhoi adnoddau i lawer o gyfleoedd newydd. Rwy’n dymuno ymddeoliad hir a hapus iddo.”
Dywedodd James Turner, cadeirydd Corff Cynrychioliadol yr Eglwys, “Daeth yr ymroddiad, gofal ac ymrwymiad sydd wedi nodweddu gweinidogaeth yr Archesgob John yn arbennig o amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf. Bu ei gyfarwyddyd a’i gefnogaeth i’r Corff Cynrychioliadol yn werthfawr iawn ac mae’n mynd i’w ymddeoliad gyda dymuniadau da pawb.”
Yn rhinwedd ei swydd yn Archesgob, John Davies yw Llywydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru a bydd yr aelodau yn ffarwelio ag ef yn y cyfarfod nesaf a gynhelir ar-lein ym mis Ebrill.
Yn dilyn ymddeoliad yr Archesgob John, bydd Esgob Bangor yn arwain yr Eglwys nes y bydd Archesgob newydd yn cael ei ethol yn hwyrach yn y flwyddyn.
Taith ei weinidogaeth
Yn wreiddiol o Gasnewydd, arweiniodd yr Archesgob John yr Eglwys yng Nghymru ers ymddeoliad y Dr Barry Morgan yn Ionawr 2017, yn gyntaf fel yr uwch esgob, ac yna yn Archesgob yn dilyn ei ethol ym Medi'r un flwyddyn.
Cychwynnodd ei hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yn dilyn gyrfa gyfreithiol. Ar ôl graddio yn y gyfraith o Brifysgol Southampton, fe’i derbyniwyd yn gyfreithiwr ym 1977, gan arbenigo mewn cyfraith droseddol. Cyfrannodd yn helaeth at fywyd yr eglwys ar lefel blwyfol, esgobol a rhanbarthol ac yn y pen draw gadawodd y gyfraith i ddod i’r weinidogaeth ac fe’i hordeiniwyd ym 1984. Ar ôl ei ordeinio, llwyddodd i gael gradd Meistr yn Nghyfraith yr Eglwys.
Gwasanaethodd yr Archesgob John yn Esgobaeth Mynwy mewn amrywiaeth o blwyfi gwledig, ôl-ddiwydiannol a threfol, a bu hefyd yn Swyddog Ysgolion yr Esgobaeth a Swyddog Materion Ecwmenaidd. Fe’i penodwyd yn Ddeon Aberhonddu yn 2000, ac yn ystod ei wyth mlynedd yn y swydd honno bu’n goruchwylio gwelliannau sylweddol i ffabrig a litwrgïau’r Gadeirlan. Fe’i hetholwyd yn nawfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 2008.
Cadwodd ei ddiddordeb brwd mewn materion trosedd a chosb, gyda diddordeb arbennig mewn trin ac adsefydlu troseddwyr, natur troseddoldeb ac effeithiau safonau cymdeithasol ac addysgiadol gwael. Gan iddo fod yn gadeirydd ar ymddiriedolwyr hosbis fawr yng Nghasnewydd, mae darparu gofal iechyd yn gyfiawn hefyd o bwys mawr iddo, yn neilltuol i’r rhai yng nghyfnod olaf eu bywydau.
Yn gyn-aelod o gôr eglwysig, organydd ac arweinydd côr, mae gan yr Archesgob John ddiddordeb angerddol mewn cerddoriaeth eglwysig.