Archesgob yn croesawu dyfarniad ar gynllun lloches Rwanda
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys heddiw (Tachwedd 15) ar gynllun lloches y Llywodraeth yn Rwanda. Mae ei ddatganiad llawn yn dilyn:
"Croesawaf ddyfarniad y Goruchaf Lys heddiw. Maen nhw wedi penderfynu bod cynllun y Llywodraeth i alltudio ymfudwyr i Rwanda yn anghyfreithlon. Yr wyf wedi dadlau o’r blaen fod y polisi hwn hefyd yn anfoesol ac na ellir ei amddiffyn. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn awr yn derbyn dyfarniad y Llys."