Archesgob yn croesawu Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan
Datganiad Llawn
“Ar ran yr Eglwys yng Nghymru, hoffwn longyfarch Eluned Morgan wrth iddi ymgymryd â dyletswyddau’r Prif Weinidog. Nid yw tasg arweinyddiaeth a gwasanaeth cyhoeddus byth yn hawdd, ond ni fu erioed mor bwysig, wrth inni geisio adeiladu cymdeithas â lle a phwrpas i bawb. Rydym yn sicrhau’r Prif Weinidog newydd, Llywodraeth Cymru, a phawb sy’n gweithio ym mywyd cyhoeddus, ni waeth beth yw eu plaid wleidyddol, y byddwn, fel Cristnogion, yn parhau i’w cefnogi mewn gweddi a chyda gweithredu ymarferol er lles pawb.”