Neges Nadolig yr Archesgob
Ar adeg pan mae’r byd yn wynebu heriau dybryd a bygythiadau arswydus a rhaniadau llym yn ein gwlad ein hunain, mae angen i ni fod yn rhodd fyw o wirionedd a chariad at eraill, medd Archesgob Cymru yn ei neges Nadolig.
Bydd yr Archesgob, John Davies, yn pregethu yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ar ddydd Nadolig. Mae’r gwasanaeth yn cychwyn am 11am ac mae croeso mawr i bawb.
Rwyt o bwys i mi
Ni ddylai rhoi rhodd fyth fod yn ystum gwag, yn hytrach dylai fod yn ffordd ddiriaethol o fynegi hoffter, cariad neu barch at y person y caiff ei rhoi iddynt. P'un a yw'n rhodd ddrud, yn rhywbeth llawer symlach neu'n wir yn ddim ond cerdyn, mae unrhyw rodd yn ffordd o ddweud wrth rywun arall 'Mae bwys gen i: rwyt ti o bwys.'
Yn neu o amgylch yr 8fed ganrif C.C, mynegodd y proffwyd Eseia yn hyfryd yn union pa mor bwysig oedd pobl Israel i Dduw: 'Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, ac yn ogoneddus, a minnau'n dy garu'. Mewn geiriau eraill 'Rwyt o bwys i mi'. Tasg y bobl hynny oedd peidio ymhyfrydu yng ngwres datganiad o'r fath o'u gwerth, ond i fod, ynddynt eu hunain, yn rhodd i genedlaethau eraill, yn enghraifft o fodolaeth gyfiawn, heddychlon a chariadus; yn enghraifft y gallai eraill ei dilyn, er eu lles eu hunain a lles pawb a lles y byd. I ddangos eu bod hwythau o bwys hefyd. Ysywaeth, nid oedd pethau bob amser yn gweithio allan fel y bwriadwyd, a chafodd pobl eu harwain ar gyfeiliorn.
Ond, oherwydd eu bod yn dal i fod o bwys, i ddod â phobl, a thrwyddynt hwy, y byd yn ôl i ffyrdd daioni, rhoddwyd rhodd fwy - y rhodd o Iesu Grist, a gred Cristnogion sy'n gwneud Duw a dibenion cariadus Duw yn weladwy a diriaethol. Mynegodd yr Efengylydd Ioan hyn pan ysgrifennodd y carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig fab er mwyn bywyd y byd, a bod pawb a'i derbyniodd ef ac a'i croesawodd ef yn cael cyfle i fyw fel plant Duw. Roedd gan y plant hynny, fel cyn bobl Israel, alwad i'w chyflawni a thasg i ymgymryd â hi: galwad i fyw'n wirioneddol yn ôl dysgeidiaeth Iesu, a thasg i dynnu eraill i wneud yr un fath; ac i wneud hyn, nid dim ond er eu lles eu hunain, ond er lles pawb a lles y byd, 'oherwydd' fel y dywedodd Eseia, 'am dy fod yn werthfawr, a minnau'n dy garu'. Rwyt o bwys.
Wrth i ni ddod at Nadolig arall ac eto ddathlu'r rhodd o Iesu i'r byd, o mae angen y byd am gyfiawnder, heddwch a chariad yn amlwg iawn. Beth bynnag fu canlyniad yr Etholiad Cyffredinol, dangosodd yr ymgyrch etholiadol raniadau llym yn ein gwlad, ac roedd llawer o iaith yr ymgyrch yn unrhyw beth heblaw ysbrydoliaeth. Tu hwnt i'n gwlad ein hunain, mae'r byd a'i gymunedau, a'r blaned lle'r ydym i gyd yn byw, yn wynebu heriau dybryd a bygythiadau arswydus. Mae anghyfiawnder, newyn, erledigaeth, cam-driniaeth a gwrthdaro yn brofiad dyddiol gormod o bobl. Mae'n hen bryd iddynt hwythau gael profiad o wirionedd a chariad oherwydd, fel chi maent o bwys, mae'r byd o bwys. Cydnabyddwch y potensial sydd gennych i fod yn rhodd fyw o wirionedd a chariad i eraill ac i'r byd o amgylch drwy dderbyn a chroesawu rhodd Iesu Grist a'i ddysgeidiaeth.
Dymunaf Nadolig bendithiol, gobeithiol ac ystyriol i chi, a Blwyddyn Newydd i fod yn rhodd Duw i eraill, oherwydd ein bod yn werthfawr, oherwydd y cawn ein caru, a'n bod yn bwysig.