Gwobr Arweinwyr Ifanc yr Archesgobion yn cael ei lansio yng Nghymru
Mae’r Gymdeithas Genedlaethol yn falch o gyhoeddi, yn dilyn rhaglen beilot a gynhaliwyd yn 2023, fod Gwobr Arweinwyr Ifanc yr Archesgobion bellach ar gael i holl ysgolion Cymru.
Gyda chefnogaeth Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, mae Gwobr Arweinwyr Ifanc yr Archesgobion sydd wedi’i hanelu at flynyddoedd ysgol 4-6, yn rhaglen arweinyddiaeth ac effeithiolrwydd personol gydag adnoddau llawn sydd wedi’i chynllunio i ategu a bod yn rhan o gwricwlwm ysgol. Mae’n cynnig cyfle cyffrous i’ch dysgwyr wneud y canlynol:
- Cymryd rhan mewn profiadau dysgu newydd
- Tyfu mewn arweinyddiaeth a datblygu sgiliau hanfodol i bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru
- Darganfod manteision helpu eraill
Dywedodd yr Archesgob Andrew am y lansiad: “Mae datblygu arweinwyr ifanc yn uchelgais allweddol i’r Eglwys yng Nghymru. Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu gweithio’n agos gydag Eglwys Loegr i ddatblygu’r uchelgais hon gyda’n gilydd. Rydym am gymryd y cyfoeth o dalent sydd gennym yng Nghymru o ddifrif a sicrhau bod pobl ifanc yn llunio ein dyfodol gan gydnabod dyfnder ac ehangder y dalent hon. Rwy’n falch iawn o gefnogi’r fenter hon.”
Bydd dysgwyr yn datblygu ac yn ymarfer eu harweinyddiaeth ac, yn yr ystafell ddosbarth, yn dysgu am arweinwyr ysbrydoledig o’r gorffennol a’r presennol, ac yn archwilio’r gwahanol gymunedau y maent yn perthyn iddynt. Yn seiliedig ar eu gwaith yn yr ystafell ddosbarth, byddant wedyn yn cynllunio ac yn ymchwilio i gamau cymdeithasol i ‘fod y newid rydych chi am ei weld’.
Rydym am gymryd y cyfoeth o dalent sydd gennym yng Nghymru o ddifrif a sicrhau bod pobl ifanc yn llunio ein dyfodol
Mae lansiad Gwobr Arweinwyr Ifanc yr Archesgobion Cymru (AYLA Cymru) wedi cael ei arwain gan Liz Thomas, y Cyfarwyddwr Addysg a ddywedodd, “Mae’r Wobr yn cynnig cyfres o adnoddau dwyieithog sy’n galluogi dysgwyr i ymgysylltu â gweithredu cymdeithasol, datblygu fel arweinwyr ac asiantau er newid, a hynny yng nghyd-destun eu hysgol a’u cymuned leol. Rydym yn falch iawn o gefnogi AYLA Cymru.
Yn yr ysgolion peilot, bu dysgwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o gamau cymdeithasol i ddyfnhau eu dealltwriaeth o gynefin a datblygu eu sgiliau arwain. Cafodd yr holl brosiectau eu nodi a’u hymchwilio gan y dysgwyr, gan ganolbwyntio ar faterion o bwys iddynt yn eu cymunedau.
Fe wnaeth rhai dysgwyr gwblhau heriau unigol a choginio prydau bwyd ar gyfer eu teuluoedd. Ysgrifennodd eraill at y cyngor lleol ac at eu Haelodau o’r Senedd neu eu Haelodau Seneddol am barcio ger yr ysgol, ceir yn goryrru drwy’r pentref a graffiti yn y parc lleol.
Roedd prosiectau poblogaidd yn cynnwys gweithio gyda phlant iau yn yr ysgol yn ystod adegau egwyl, drwy chwarae gemau a dod yn ffrindiau darllen. Roedd eraill yn cefnogi perthnasau hŷn ac aelodau o’r gymuned gan gynnwys trefnu te prynhawn ar gyfer eu cymdogion oedrannus.
Bu un ysgol yn gweithio gyda’r cyngor lleol i helpu i lanhau gardd gymunedol ac ysgrifennu cardiau i’r gwasanaethau brys lleol i ddiolch iddynt am eu holl gymorth a’u cefnogaeth yn y gymuned.
Dywedodd Elizabeth Howat Pennaeth yr AYLA, “Mae’n wych gweld cyflawniadau’r plant, sy’n dangos y ‘budd dwbl’ o gymryd rhan yn y Wobr, wrth i blant dyfu mewn hyder a thosturi, a meithrin cysylltiadau â chymunedau gan adeiladau gwaddol parhaol ar yr un pryd. Fel y dywedodd un arweinydd ifanc, ‘gall plant newid y byd am mai nhw yw’r genhedlaeth nesaf’”.
- Mae tîm AYLA yn edrych ymlaen at weithio gyda mwy o ysgolion Cymru dros y misoedd nesaf. I gael gwybod mwy am gymryd rhan yn AYLA Cymru gall athrawon ymuno â gweminar yma: https://www.abyyt.com/events
Gallwch glywed mwy am brofiadau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru’r Holl Saint, Y Barri