Datganiad yr Archesgob ar fesurau newydd y Llywodraeth
Tra bod mesurau’r Llywodraeth a gyhoeddwyd heno gan y Prif Weinidog ac a gymeradwywyd gan Brif Weinidog Cymru yn ddigynsail, maent wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer iechyd a lles pobl ein cymunedau a’n cenedl. Rydym yn ddiamod yn annog pawb i ddilyn y cyfarwyddiadau a roddwyd. Bydd datganiad llawn a chyngor pellach yn dilyn cyn gynted â phosibl ond, yn y cyfamser, gofynnwn ichi barhau i weddïo ac i gynnal yn eich gofal cariadus aelodau bregus ein cymunedau. Er ein bod ar wasgar ac yn bryderus, rhaid bod yn gryf a chadarn wrth wneud popeth a ofynnir ohonom ar adeg mor dyngedfennol.