Cyhoeddi Esgob Cynorthwyol Bangor
Caiff un o’r menywod cyntaf i ddod yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru ei chysegru fel esgob fis nesaf.
Enwebwyd Mary Stallard, a wasanaethodd fel Archddiacon Bangor am y pedair blynedd ddiwethaf, yn Esgob Cynorthwyol yn Esgobaeth Bangor. Bydd yn rhannu arweinyddiaeth yr esgobaeth tra bydd Esgob Bangor, Andrew John, yn gwasanaethu fel Archesgob Cymru.
Caiff Mary chysegru fel esgob yng Nghadeirlan Bangor ar 26 Chwefror. Caiff Esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas, ei gysegru yn y gwasanaeth hwnnw.
Talodd yr Archesgob Andrew deyrnged i galon fugeiliol a gweledigaeth strategol Mary. Dywedodd, “Rwy’n hynod falch y cytunodd Mary gymryd cyfrifoldeb gweithredol am lawer o fywyd ein Hesgobaeth i fy nghynorthwyo tra byddaf yn rôl Archesgob Cymru. Mae gan Mary galon am weinidogaeth ac mae’n arwain gyda sensitifrwydd bugeiliol, cydymdeimlad a doethineb. Mae ganddi gyfoeth o brofiad, gan fod wedi gwasanaethu ym mhedair o chwech esgobaeth yr Eglwys ac ar draws ystod o arbenigeddau. Mae ei hymagwedd broffesiynol a’i gweledigaethol strategol yn hysbys iawn ac mae ei phenodiad yn gam cadarnhaol i esgobaeth Bangor.”
Dywedodd yr Archddiacon Mary, “Mae’r alwad i fod yn Gristion a gwasanaethu mewn gweinidogaeth ordeiniedig fel diacon ac offeiriad yn un a gefais bob amser yn gyffrous a hefyd yn un a all godi ychydig o fraw. Mae’r cyfle newydd hwn i ymchwilio a chynnig rhoddion eraill arweinyddiaeth fel esgob cynorthwyol gyda’r tîm gwych ym Mangor yn teimlo fel buddsoddiad mawr o ymddiriedaeth. Gwnaf fy ngorau i ymateb i’r galwad newydd hwn ac i anrhydeddu’r ymddiriedaeth honno, gan geisio adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd eisoes i addoli Duw, tyfu’r eglwys a charu’r byd.”
Taith o Weinidogaeth
Yn hanu o Birmingham, cafodd yr Archddiacon Mary ei magu mewn rheithordy. Roedd ei thad yn ficer a’i mam yn wyddonydd sy’n golygu iddi gael ei magu mewn cartref lle anogwyd codi cwestiynau am fywyd a ffydd.
Bu Mary yn darllen Diwinyddiaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt ac astudiodd i fod yn athrawes yn Llundain cyn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham a Choleg Diwinyddol Tamil Nadu yn India. Gwasanaethodd fel ciwrad yng Nghasnewydd, cyn symud i Esgobaeth Tyddewi fel diacon-mewn-gofal a ficer Ysbyty Cynfyn, Eglwys Newydd a Llantrisant. Yn 2003 penodwyd Mary yn Ganon Preswyl yng Nghadeirlan Llanelwy ac yn Gaplan yr Esgob, gan wasanaethu hefyd fel Cyfarwyddwr Ordinandau yr Esgobaeth a Chadeirydd Bwrdd Gweinidogaeth yr Esgobaeth ac Ysgrifennydd Detholiad Taleithiol.
Rhwng 2011 a 2018 gwasanaethodd fel Caplan Anglicanaidd yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, yn ogystal â bod yn Offeiriad Cyswllt yn Ardal Cenhadaeth Wrecsam. Roedd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd San Silyn yn Wrecsam. Cafodd ei phenodi yn Archddiacon Bangor ac yn offeiriad cyswllt yn Llandudno yn 2018.
Mae gweinidogaeth darlledu sylweddol yr Archddiacon Mary wedi ei gweld yn ymddangos ar BBC Radio Cymru fel arweinydd Yr Oedfa ac mae wedi cyfrannu at Bwrw Golwg, ar BBC Radio Wales yn all Things Considered, Celebration, Wednesday Word a Weekend Word, ac ar Radio 4 fel arweinydd The Daily Service a Sunday Worship ac fel awdur a chyflwynydd Prayer for the Day.
Mae Mary yn briod â’r Parch Andrew Sully, Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Llandudno, ac mae ganddynt ddwy ferch sydd bellach yn oedolion. Mae ei hobïau yn cynnwys coginio, darllen a rhedeg.