Artist rap gwobrwyol yn ymuno ag ymgyrch Adfent
Mae’r artist ‘grime’ Guvna B yn cefnogi ymgyrch Adfent yr Eglwys yng Nghymru gyda thrac a gomisiynwyd yn arbennig yn seiliedig ar un adnod o’r Beibl.
Ysgrifennodd Guvna B, Cristion amlwg a enillodd ddwy wobr MOBO, y rap ar gyfer yr Eglwys ar thema Duw yn troi ein tywyllwch yn oleuni.
Yn y trac mae’n disgrifio sut y newidiodd cariad Duw fywydau dau bobl ifanc yn llwyr – menyw yn dioddef gyda gorbryder a phroblemau iechyd meddwl a dyn oedd yn gaeth i gyffuriau.
Comisiynwyd y rap gan yr Eglwys ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant mewn ymgais i ymestyn allan i bobl ifanc sy’n anghyfarwydd gyda’r neges Gristnogol. Cafodd ei wneud yn ffilm gan asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus Working Word o Gaerdydd.
Dewisodd Guvna B adnod 28 o Salm 18 fel un a oedd wedi ei ysbrydoli yn ei fywyd:
Ti, sy’n goleuo fy llusern, ARGLWYDD: fy Nuw, sy’n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.
“Mae’r adnod hon yn golygu llawer i mi oherwydd yn 2017 fe gollais fy nhad yn sydyn a daeth tywyllwch i bob rhan o’m bywyd. Roedd yn llethol ac yn rheoli popeth. Allwn i ddim gweld ffordd allan o gwbl, ond yn ddigon sicr, dechreuodd Duw ddangos cip o’r goleuni i mi trwy fy nheulu, fy mab newydd-anedig, y bobl y gallwn eu helpu oherwydd fy mhrofiad o alar ac fe wnaeth i mi sylweddoli rhywbeth. Mae hyd yn oed y gannwyll leiaf un yn goleuo’r ystafell dywyllaf. Mae Duw gyda ni bob amser, nid yw fyth yn ein anghofio, a bydd bob amser yn taflu ei oleuni arnom pan fydd arnom ei angen.”
Dywedodd Esgob Bangor, yr esgob arweiniol ar efengylu: “I Gristnogion, mae’r Adfent yn golygu paratoi ar gyfer y Nadolig pan ddaeth Iesu i’n byd tywyll a chynnig golau a gobaith i ni. Felly mae’r adnod a ddewisodd Guvna B yn cyd-fynd yn berffaith gyda’n neges yn yr Adfent. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei gefnogaeth a rydym yn hyderus y gall ei lais ymestyn allan i’r rhain sy’n ei chael yn anodd cysylltu gyda’r eglwys draddodiadol a chynnig gobaith iddynt yn y cyfnod anodd a phryderus hwn.”
Gallwch weld y trac yma: