Mae Cadeirlan Bangor yn gobeithio achub bywydau gyda dyfais newydd
Mae eglwys gadeiriol sydd wrth galon ei chymuned yn amddiffyn ei phobl gyda dyfais newydd i achub bywydau.
Mae diffibriliwr newydd bellach ar gael yng Nghadeirlan Bangor i helpu’r rhai a allai ddioddef ataliad y galon yn ystod gwasanaethau a digwyddiadau neu ym Manc Bwyd y Gadeirlan.
Cefnogwyd y diffibriliwr symudol hwn gan Achub Bywyd Cymru, rhaglen gan Lywodraeth Cymru, sy’n ymgyrchu i leihau nifer y marwolaethau yn dilyn ataliadau y galon y tu allan i’r ysbyty.
Wrth dderbyn y diffibriliwr, dywedodd Esgob Enlli, David Morris, “Rydym yn hynod ddiolchgar i Achub Bywyd Cymru am weithio gyda ni yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae argaeledd a hygyrchedd diffibrilwyr yng Nghadeirlan Bangor ac ar safleoedd eraill yr Eglwys yng Nghymru yn newid y gêm o ran helpu i leihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i ataliad y galon ac rydym yn barod i chwarae ein rhan yn yr ymgyrch achub bywyd hon.
“Wrth gwrs, rydym yn gobeithio na fydd byth angen ei ddefnyddio ond bydd yn rhoi cysur mawr bod y diffibriliwr ar gael yn yr eglwys gadeiriol."
Mae Achub Bywyd Cymru yn amcangyfrif bod mwy na 6,000 o bobl bob blwyddyn yn cael ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru. Maent yn aml yn digwydd yn sydyn a heb rybudd. Heb gydnabyddiaeth gynnar a gweithredu ar unwaith, fel perfformio CPR a defnyddio diffibriliwr, yn ystod ychydig funudau cyntaf yr ataliad ar y galon, mae marwolaeth yn debygol.
Dywedodd yr Athro Len Nokes, Cadeirydd Achub Bywyd Cymru, “Rwyf wrth fy modd bod Achub Bywyd Cymru wedi gallu cefnogi diffibriliwr symudol newydd i Gadeirlan Bangor. Mae'r diffibriliwr symudol hwn yn rhan o'r dull arloesol Achub Bywyd Cymru o helpu i ddarparu gofal brys cyflym ledled Cymru.
“Mae angen i ni annog mwy o bobl i ddod yn ymwybodol o bwysigrwydd CPR a diffibriliwr fel y gellir achub mwy o fywydau os bydd ataliad y galon yn digwydd.
“Nid oes angen unrhyw hyfforddiant arnoch i ddefnyddio diffibriliwr, ond gallwch chi fagu hyder trwy gymryd ychydig funudau i wylio ein ffilmiau CPR ac ymwybyddiaeth diffibriliwr, chwiliwch am Achub Bywyd Cymru.”