'Byddwch yn oleuni yn y tywyllwch yn ystod y cyfnod Adfent hwn' – Archesgob
Prin fod cyfnod yr Adfent, sy’n dechrau’r penwythnos hwn, erioed wedi bod mor bwysig fel amser i ddwyn goleuni a gobaith i’r rhai mewn tywyllwch, meddai Archesgob Cymru.
I nodi Sul yr Adfent (29 Tachwedd) dywed yr Archesgob John Davies, tra bydd gwasanaethau eglwys yn wahanol iawn eleni, oherwydd y cyfyngiadau Covid, mae’r Adfent yn parhau yn gyfnod o obaith y mae ei angen yn fawr wrth i ni baratoi at y Nadolig.
Mae’n gwahodd pobl i ymuno ag ef, a holl esgobion yr Eglwys yng Nghymru, mewn gweddi bob dydd am 6pm yn ystod y tymor, rhwng nawr a dydd Nadolig, a bod yn gyfrwng goleuni i eraill sydd angen gobaith a chefnogaeth hefyd.
Meddai’r Archesgob John, “Mae’r amgylchiadau presennol yn parhau yn dywyll a phryderus i gymaint o bobl, ac felly mae dathlu dyfodiad y goleuni, symud o dywyllwch i oleuni, gymaint yn bwysicach nag y bu yn y gorffennol, efallai. Mae arnom ni i gyd angen gobaith, mae arnom i gyd angen rhywbeth i chwalu’r tywyllwch o’n calonnau a’n meddyliau.
“Mae’r Eglwys a’i hesgobion yn sensitif iawn i’r angen hwnnw. Y teimlad hwnnw sy’n ymddangos yn aml mewn cymaint o lefydd, y teimlad o drymder. Rydym yn gofyn i bobl yn nhymor yr Adfent, yn y cyfnod cyn y Nadolig, i ganolbwyntio ar ei ystyr gwirioneddol a dwys – y paratoad hwnnw at ddyfodiad y goleuni, a’r goleuni hwnnw yn torri trwy’r tywyllwch.
“Rydym yn gofyn i bobl ymuno â ni bob dydd yn ystod yr Adfent am 6pm trwy weddïo dros ei gilydd, gweddïo dros ein cenedl, dros ei chymunedau a’i phobl. Rydym yn gofyn i bobl ganolbwyntio ar yr hyn y gallan nhw ei wneud i fod yn gyfryngau goleuni eu hunain. Trwy wirfoddoli mewn cymaint o ffyrdd gwahanol yn eu cymunedau, eu hardaloedd, trwy helpu, trwy ddwyn goleuni i bobl sydd angen gobaith a chefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Credaf, eleni, na fu’r Adfent erioed mor bwysig i ni ganolbwyntio ar y goleuni hwnnw, y gobaith a’r cryfder hwnnw yr ydym yn ei ddwyn i eraill.”
Neges Adfent llawn yr Archesgob:
Galwad i Weddïo’r Esgobion
Cadeirlannau yn goleuo at Sul yr Adfent
Bydd holl gadeirlannau a’r eglwysi mwyaf yn yr Eglwys yng Nghymru yn cael eu trawsnewid yn llusernau ar Sul yr Adfent.
Bydd ein hadeiladau mwyaf dan lifoleuadau neu wedi eu goleuo o’r tu mewn ar 29 Tachwedd i gynrychioli goleuni Crist a chariad yn ein cymunedau.
Yn draddodiadol mae eglwysi yn nodi Sul yr Adfent gyda gwasanaethau sy’n cychwyn yng ngolau cannwyll ac yn dod i ben â’r eglwys wedi ei goleuo yn llawn, i gynrychioli dyfodiad goleuni Crist i dywyllwch y byd.
Gan y bydd y gwasanaethau yn gyfyngedig eleni, gwahoddir yr holl eglwysi i ymuno i oleuo wrth iddi dywyllu a disgleirio ar Sul yr Adfent. Gobeithir y byddant yn rhoi lluniau o’u goleuadau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TywyllwchIOleuni
Gwasanaethau eglwys
Mae eglwysi ar draws Cymru yn datblygu cynlluniau i gynnal gwasanaethau Covid-ddiogel. Bydd llawer trwy docyn (am ddim) yn unig er mwyn rheoli’r niferoedd a sicrhau bod pawb yn cadw pellter. Ni chaniateir canu carolau cynulleidfaol eleni ond bydd corau eglwysig yn canu llawer o’r hoff garolau Nadolig. Bydd gwasanaethau ar-lein yn parhau hefyd.