Mainc yr Esgobion yn croesawu gwaharddiad arfaethedig o therapi trosi hoyw
Mae Mainc yr Esgobion yn yr Eglwys yng Nghymru yn croesawu’r cyhoeddiad yn Araith y Frenhines y bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gwahardd therapi trosi i bobl hoyw.
Credwn bod rhywioldeb pobl yn rhodd gan Dduw i’w goleddu a’i anrhydeddu. Mae’n rhan ganolog o bwy ydym ni fel bodau dynol ac yn fynegiant o amrywiaeth gogoneddus Duw yn ei greadigaeth.
Credwn bod unrhyw beth sy’n ceisio awgrymu bod rhywbeth yn hanfodol anghywir neu bechadurus yn y rhai nad ydynt yn heterorywiol neu sy’n ceisio gorfodi pobl i geisio newid eu rhywioldeb yn anghywir. Mae’n gamdriniaeth ac yn achosi trawma; fel y gall y rhai sydd wedi profi ‘therapi’ o’r fath dystio.
Rydym yn uno ein lleisiau â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill wrth hawlio bod yr arfer o therapi trosi pobl hoyw yn achosi niwed trwy gydol oes i’r rhai sy’n cael eu gorfodi i’w dderbyn ac nid oes iddo le yn y byd modern.
Rydym yn deall y bydd Senedd Cymru hefyd yn ystyried y mater hwn, ac rydym yn annog Senedd Cymru i gyflwyno deddfwriaeth gadarn fydd yn gwahardd therapi trosi yn ei holl ffurfiau gan gynnig gwarchodaeth i bobl LGBTQI+ yng Nghymru rhag yr arfer sarhaus a niweidiol hwn.