Esgob yn gweddio dros ysgol wedi digwyddiad difrifol
Y mae gweddiau yn cael eu hoffrymu dros bawb sydd wedi eu heffeithio gan ddigwyddiad difrifol mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin heddiw.
Y mae Esgob Tyddewi, Dorrien Davies, wedi mynegi ei bryder dwfn yn dilyn adroddiadau bod sawl person wedi cael eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman.
Dywed, “Y mae hwn yn ddigwyddiad brawychus ac yr wyf yn meddwl am, ac yn gweddio dros, y sawl sydd wedi eu hanafu, a staff, disgyblion a theuluoedd pawb yn Ysgol Dyffryn Aman. Y mae Eglwys yr Holl Saint, Rhydaman, ar agor er mwyn cynnig cymorth a gofal bugeiliol mewn ymateb i'r hyn sydd wedi digwydd.”
Y mae ficer Eglwys yr Holl Saints, y Parch Alison Reeves, ynghyd ag aelodau o'r eglwys wedi bod yn darparu te a choffi i rieni pryderus wrth giat yr ysgol ac y mae'r eglwys ar agor i unrhyw un sy'n dymuno cynnau cannwyll neu ddweud gweddi.
Y mae'r Esgob Dorrien allan o'r wlad ar hyn o bryd ond yn bwriad ymweld a Rhydaman ddydd Gwener.
Digwyddodd y trywaniadau amser cinio. Y mae tri pherson - gan gynnwys dau o athrawon - wedi eu hanafu. Y mae o leiaf un wedi cael eu hedfan i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr. Y mae un person wedi eu harestio ac nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad a'r digwyddiad.
Cafodd disgyblion yr ysgol eu cadw dan glo yn eu dosbarthiadau er diogelwch am nifer o oriau.