Yr Esgob yn arwain dathliadau Dydd Gŵyl Dewi gyda neges i wleidyddion Cymru
Mae Esgob newydd Tyddewi yn diolch i wleidyddion Cymru am eu gwaith yn “y dyddiau anodd hyn” yn ei neges Gŵyl Dewi cyntaf i Senedd Cymru.
Gan sicrhau aelodau’r Senedd eu bod yn ei weddïau, mae’r Esgob Dorrien Davies hefyd yn eu hannog gyda geiriau Nawddsant Cymru, Dewi Sant, i fod “yn llawen, cadw’r ffydd a gwneud y pethau bychain”.
Cyflwynwyd y neges i’r Senedd ym Mae Caerdydd gan ddisgyblion ac athrawon o Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn Dewi gyda'r Canon Leigh Richardson, Is-Ddeon Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Mae’n dweud, “Yn ystod y dyddiau anodd hyn i Gymru a’r byd, yr wyf yn ymwybodol o’r cyfrifoldebau a’r pwysau sydd ar holl aelodau’r Senedd wrth i chi wynebu penderfyniadau anodd a sefyllfaoedd heriol.
“Y mae fy neges Dydd Gŵyl Ddewi yn un syml a diffuant. Hynny yw, i ddatgan diolch twymgalon am bopeth yr ydych yn ei wneud dros les pobl Cymru.
“Hoffwn eich sicrhau o’m dymuniadau gorau a gweddïau, ac i rannu geiriau tragwyddol ein nawddsant, Dewi.
“ ‘Byddwch lawen, cedwch y ffydd a gwnewch y pethau bychan a glywsoch ac a welsoch gennyf fi’."
Bydd yr Esgob Dorrien yn arwain dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Nhyddewi am y tro cyntaf ddydd Gwener (1 Mawrth).
Mae’r diwrnod yn dechrau am 9.30am gydag anerchiad gan ddisgyblion o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn Dewi mewn gwasanaeth yn y gadeirlan.
Byddwch lawen, cedwch y ffydd a gwnewch y pethau bychan a glywsoch ac a welsoch gennyf fi
Oddi yno bydd yr Esgob Dorrien yn teithio i Gapel Santes Non lle bydd yn bendithio’r ffynnon a gysegrwyd i fam Dewi Sant cyn cychwyn, gydag eraill, am 11.15am ar y bererindod flynyddol i ganolfan ymwelwyr Oriel y Parc ar gyfer goleuo carreg Dydd Gŵyl Dewi ganol dydd.
Bydd yr orymdaith wedyn yn symud i’r sgwâr yng nghanol Tyddewi ar gyfer bendithio’r ddinas a’i phobl oddi ar y groes, am 12.15pm, sy’n ddigwyddiad traddodiadol, cyn mynd ymlaen i’r gadeirlan lle bydd yr Esgob Dorrien yn arwain gweddïau ac yn eneinio, wrth Gysegr Dewi Sant.
Yn y prynhawn bydd yr Esgob yn ymuno â disgyblion o Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penboyr, Felindre, yn y gadeirlan. Mae’r ysgol gyfan yn dod ar bererindod i Dyddewi ar gyfer yr achlysur a byddant yn perfformio emyn eu hysgol am y tro cyntaf.
Bydd yr Esgob Dorrien hefyd yn ymweld ag arddangosfa a drefnir gan Gymdeithas Hanesyddol Tyddewi a Phebidiog yn Neuadd Goffa’r ddinas.
Dathliad olaf y dydd fydd yr Ewcharist Gŵyl Nawddsant Corawl am 6pm yn y gadeirlan, y bydd yr Esgob yn llywyddu a phregethu ynddo. Mae croeso i bawb ymuno yn yr orymdaith a’r gwasanaeth.
Meddai’r Esgob Dorrien, “Fel y 130fed Esgob Tyddewi rwyf yn ymwybodol iawn bod heddiw’n ddiwrnod pwysig i’r esgobaeth a thalaith Cymru, ond hefyd i mi’n bersonol. Mae dathlu’r diwrnod hwn yn Nhyddewi am y tro cyntaf fel Esgob yn fy llenwi â llawenydd mawr wrth i mi arwain cynulleidfa’r Gadeirlan, pererinion, a nifer ddirifedi o bobl eraill yn eu diolchgarwch am ein Sant cenedlaethol.
“Mae Tyddewi’n lle unigryw, ac mae’r llen rhwng y byd hwn a’r byd nesaf yn denau iawn, mae’n ein galluogi i estyn allan a chyffwrdd y duwiol. Cyfoethogir heddiw wrth i eiriau Dewi Sant adleisio trwy’r canrifoedd: “Byddwch lawen, cedwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain”. Byddai Dewi Sant am i ni gofio, yn ganolog i heddiw y dylem gofio cariad a gras Iesu Grist a’i ddilyn fel y gwnaeth ef. Hoffwn estyn fy ngweddïau i bawb sy’n coffau’r diwrnod hwn, ac fel Esgob Tyddewi, fy Mendith Esgobol.”