Esgob Tyddewi i ymddeol
Cafodd yr Esgob Joanna ei phenodi ym mis Tachwedd 2016 gan greu hanes am mai hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei chysegru fel Esgob yn yr Eglwys yng Nghymru ym mis Ionawr 2017. Mae wedi gwasanaethu fel Esgob am chwe blynedd wedi gwasanaeth hir gyda llawer iawn o deithio yn esgobaethau Durham, Llandaf, Llanelwy, Caerfaddon a Wells, Abertawe ac Aberhonddu yn ogystal â chyfnod fel Offeiriad yn yr esgobaeth a aeth ymlaen i’w harwain.
Wrth gyhoeddi ei hymddeoliad, dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John: “Rwyf am ddiolch i’r Esgob Joanna am ei gwasanaeth yn yr esgobaeth ac yn y dalaith. Mae wedi cyfrannu’n helaeth at amrywiol agweddau ar fywyd yr eglwys, yn enwedig materion amgylcheddol a gyda’n rhwydwaith Cyfrifoldeb Cymdeithasol.”
Bydd yr Esgob Joanna yn ymddeol ar 31 Gorffennaf 2023.