Esgob Abertawe ac Aberhonddu – proses benodi
Yr wythnos hon bydd esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn dechrau ar y broses o benodi Esgob nesaf Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.
Cafodd y penderfyniad ar y penodiad ei drosglwyddo iddynt ar ôl i’r Coleg Etholiadol, a gynhaliwyd ar 1-3 Medi, ddod i ben heb unrhyw ymgeisydd yn sicrhau’r mwyafrif angenrheidiol o ddau-draean i gael eu hethol.
Bu’r esgobaeth yn wag ers ymddeoliad yr Esgob John Davies ym mis Mai, oedd hefyd yn Archesgob Cymru.
Mae’r esgobion yn ymgynghori ag aelodau o’r Coleg Etholiadol a gaiff eu gwahodd i awgrymu enwau i’r esgobion eu hystyried. Mae’r esgobion yn gobeithio gwneud y penodiad erbyn dechrau mis Tachwedd.
Dywedodd Andy John, yr Uwch Esgob, “Gan na etholwyd unrhyw ymgeisydd gan y Coleg, cafodd y penderfyniad ei drosglwyddo i’r Esgobion, dan ddarpariaethau Cyfansoddiad yr Eglwys.
“Yn wahanol i broses y Coleg Etholiadol, ni osodwyd amserlen ar gyfer y broses benodi. Fodd bynnag, byddem yn dymuno cyhoeddi unrhyw benodiad cyn gynted ag y caiff yr holl agweddau ffurfiol eu cwblhau.
Gofynnwn am eich gweddïau yn ystod y broses hon – ar gyfer Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu a hefyd ar gyfer ein gwaith ein hunain wrth i ni barhau i ganfod y person fydd yn gwasanaethu’r Esgobaeth a hefyd yr eglwys yn ehangach.”