Esgob yn datgelu enillydd cystadleuaeth Cerdyn Nadolig
Mae disgybl o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Trefaldwyn ym Mhowys wedi ennill Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig Esgob Llanelwy.
Roedd Rosie, sy’n naw oed, wedi creu llun o Goeden Jesse, sy’n olrhain addewidion Duw trwy’r Hen Destament i enedigaeth Iesu. Mae Coeden Jesse gan Rosie yn dangos yn glir y symbolau sy'n cynrychioli llinach Iesu o Greadigaeth y Byd hyd at ei eni ym Methlehem.
Roedd y llun yn un o fwy na 1,400 a gyflwynwyd gan blant o 49 Ysgol yr Eglwys yng Nghymru ar draws Esgobaeth Llanelwy. Eleni, y thema oedd Iesu Gobaith y Byd . Mae'r cynllun buddugol wedi'i droi'n glawr cerdyn Nadolig, y mae'r esgob yn ei anfon at gydweithwyr, teulu a ffrindiau ym mhob rhan o'r byd.
Ar gefn y cerdyn mae llun gan Robyn, disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol y Santes Fair yn Owrtyn. Mae llun Robyn yn darlunio Iesu yn y preseb fel bauble siâp seren ar gyfer coeden Nadolig.
Yr wythnos diwethaf ymwelodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron, ei wraig, Clare Cameron, Ysgrifennydd yr Esgobaeth, Olwen Lintern-Smyth a Phennaeth newydd Addysg, Plant a Gwaith Ieuenctid, Louise Williams, ag Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Trefaldwyn. Cyflwynwyd gwobr i Rosie gan yr Esgob Gregory, a 10 copi o’i Cherdyn Nadolig, y gall ei hanfon at ei theulu ei hun.
Dywedodd yr Esgob Gregory: “Rwyf wrth fy modd gyda’r creadigrwydd a’r dehongliad y mae disgyblion yn ein hysgolion eglwys yn eu cyfrannu at y thema. Gall Iesu, Gobaith y Byd ymddangos yn anniriaethol ond roedd ei fframio yng nghyd-destun y Goeden Jesse, ac roedd hanes teulu Iesu ei hun yn helpu disgyblion i wneud synnwyr o bwysigrwydd genedigaeth Iesu a'r cysylltiadau yn ôl trwy'r Hen Destament.
“Diolch i’r holl blant a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Cawsom fwy na 1,400 o geisiadau ac mae bob amser yn bleser edrych drwyddynt i gyd. Diolch i’r staff sydd wedi neilltuo amser i gefnogi’r plant i ddeall y thema a dylunio eu cynigion.”
Y rhestr lawn o'r gwobrau a ddyfarnwyd yw:
- Gwobr gyntaf i Rosie o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Trefaldwyn, Trefaldwyn
- Cydradd Ail wobr i Robyn o Ysgol y Santes Fair, Owrtyn a Hayla (Blwyddyn 7) o Ysgol St Joseph yn Wrecsam.
- Cydradd drydydd yn mynd i Leon, 4 oed, o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng a Dihya Rose, 10 oed, o Ysgol San Silyn yn Wrecsam.
Cafodd tri chais eu ddewis i’r gystadleuaeth ar gyfer clawr cylchgrawn yr esgobaeth, Teulu Asaph . Roedden nhw:
- Hayla a Sienna, y ddwy o Flwyddyn 7, o St Joseph's yn Wrecsam
- Mirain, Blwyddyn 6, Ysgol Tremeirchion .
Mae holl enillwyr y gwobrau yn derbyn tocyn llyfr a thystysgrif. Yn ogystal a hynny, derbyniodd Rosie brint ffrâm chwyddedig o’i chynllun, ynghyd â 10 o’r cardiau Nadolig. Rhoddwyd tystysgrifau hefyd i'r plant o'r holl ysgolion yr enillodd eu gwaith naill ai statws Canmoliaeth Uchel Iawn neu Ganmoliaeth Uchel.