Esgobion yn galw am fendith Duw ar Frenin Charles III
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn croesawu Brenin Charles III ac yn gofyn am fendith Duw arno wrth iddo esgyn i’r orsedd.
Wrth i ni groesawu’r Brenin newydd i’w le fel Pennaeth y Wladwriaeth, gwyddom y bydd yr achlysur hwn yn gyfnod o dristwch personol mawr iddo ef ac i’r Teulu Brenhinol yn ogystal â’r genedl, a byddant yn ein gweddïau, Fodd bynnag, rydym yn hyderus y bydd esiampl Ei diweddar Fawrhydi yn ysbrydoliaeth ac yn ganllaw ar gyfer y dyfodol. Gwahoddwn fendith Duw ar ein Brenin newydd, gan ddiolch am deyrnasiad Y Frenhines, gan ofyn i Dduw gynnal ein brenin newydd yn yr un ysbryd o ddoethineb, gwasanaeth a ffydd am y blynyddoedd i ddod.
Ychwanegodd Archesgob Cymru, “Fel Tywysog Cymru, bu’r Brenin bob amser yn gyfaill da i’n Cenedl ac i’r Eglwys yng Nghymru. Byddaf i a fy nghyd esgobion yn ei gadw ef a’r holl Deulu Brenhinol yn ein gweddïau.”
Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru ac Esgob Bangor
Y Gwir Barchedig Gregory Cameron, Esgob Llanelwy
Y Gwir Barchedig Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi
Y Gwir Barchedig June Osborne, Esgob Llandaf
Y Gwir Barchedig Cherry Vann, Esgob Mynwy
Y Gwir Barchedig John Lomas, Esgob Abertawe ac Aberhonddu
Y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol Bangor