Esgobion yn galw am weithredu beiddgar ar yr argyfwng hinsawdd
Rhaid i lywodraethau, a phob un ohonom, weithredu’n gyflym yn awr i osgoi trychineb hinsawdd, rhybuddia esgobion yr Eglwys yng Nghymru.
Mewn datganiad yn nodi dechrau uwchgynhadledd hinsawdd COP26 Glasgow, mae pum arweinydd yr Eglwys yng Nghymru yn disgrifio’r argyfwng hinsawdd fel “her ddwys i ddynoliaeth” ac maent yn galw am weithredu beiddgar a phenderfynol i dorri allyriadau carbon i sero net.
Maent yn rhybuddio bod newid hinsawdd yn fater o gyfiawnder gan mai pobl dlotach a gwledydd sy’n datblygu sydd mewn mwyaf o berygl o’i ganlyniadau. Maent yn annog y gwledydd cyfoethocach i rannu gwybodaeth ac adnoddau i helpu’r gwledydd hynny y mae wedi effeithio arnynt yn barod.
Mae’r esgobion yn tynnu sylw at chwe phwynt gweithredu i arweinwyr gwleidyddol ac maent hefyd yn annog pobl i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed trwy gefnogi’r Diwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd ar 6 Tachwedd.
Yr esgobion yw: Andy John, Esgob Bangor a’r Uwch Esgob; Gregory Cameron, Esgob Llanelwy; Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi; June Osborne, Esgob Llandaf; a Cherry Vann, Esgob Mynwy.
Mae’r datganiad llawn isod.
Datganiad ar COP26
Mae’r Argyfwng Hinsawdd yn her ddwys i ddynoliaeth a bydd y penderfyniadau a wneir yn COP26 yn effeithio arnom i gyd.
Mae gwyddonwyr yn rhybuddio bod y ddegawd yma yn allweddol i atal newid hinsawdd trychinebus. Rydym eisoes yn gweld digwyddiadau tywydd eithafol. Rhagflas yn unig oedd y gwres digynsail, y sychder a’r tanau gwyllt yn yr Unol Daleithiau, Canada, Twrci, Groeg a Siberia, y llifogydd trychinebus yn yr Almaen a’n profiad ni ein hunain o Storm Dennis yn Ne Cymru y llynedd o’r hyn sydd o flaen llawer mwy ohonom os byddwn yn parhau ar ein llwybr presennol.
Rhaid i ni weithredu’n gyflym i atal trychineb. Gall yr hyn sy’n digwydd dros y 10 mlynedd nesaf newid cwrs hanes.
Mae newid hinsawdd hefyd yn fater o gyfiawnder. Pobl sydd ar y cyrion, ar incwm isel a gwledydd sy’n datblygu sydd mewn mwyaf o berygl. Nhw sydd wedi cyfrannu lleiaf at y sefyllfa ac eto nhw sydd leiaf abl i addasu i’r canlyniadau.
Mae angen i lywodraethau fod yn feiddgar, yn bendant a gweithredu’n gyflym fel bod allyriadau carbon yn cael eu lleihau’n llym iawn dros y blynyddoedd nesaf ac mae’n rhaid i ni eu dal hwy a ni’n hunain i gyfrif.
Rhaid i bob un ohonom gyfyngu ein cyfraniad at newid hinsawdd trwy symud oddi wrth ffyrdd o fyw a defnydd anghynaliadwy.
Eleni ymrwymodd yr Eglwys yng Nghymru i fod yn Sero Net Carbon yn ddelfrydol erbyn 2030 a thrwy wahanu oddi wrth gwmnïau tanwydd ffosil erbyn diwedd 2021.
Rydym yn awr yn galw ar ein harweinwyr gwleidyddol i:
- Weithredu ar unwaith i gyflawni allyriadau sero net.
- Cyfyngu’r cynnydd yn nhymheredd y byd i 1.5°C.
- Clywed lleisiau pobl y mae newid hinsawdd eisoes wedi effeithio arnynt a rhoi eu hanghenion yn ganolog
- Rhoi’r modd ariannol i’r rhai sydd mewn mwyaf o risg oherwydd newid hinsawdd i daclo newid hinsawdd.
- Sicrhau bod y cenhedloedd cyfoethocaf yn arwain trwy rannu gwybodaeth ac adnoddau gyda’r cenhedloedd hynny sy’n profi canlyniadau anochel newid hinsawdd.
- Gweithredu i atal y defnydd o danwydd ffosil ac ehangu egni tanwydd ffosil a buddsoddi mewn ynni glân.
Rydym hefyd yn annog pobl Cymru i gymryd rhan yn y Diwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd ar 6 Tachwedd i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Mae gennym oll ddyletswydd i ofalu am greadigaeth Duw ac rydym yn gweddïo y bydd COP26 yn cynnig trobwynt gwirioneddol yn y modd yr ydym yn gofalu am adnoddau gwerthfawr y byd.
Esgob Bangor, Andy John
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy
Esgob Llandaf, June Osborne
Esgob Mynwy, Cherry Vann