Mae Esgobion galw am dawelwch yn sgil y protestiadau
Datganiad Llawn
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi galw am dawelwch yn sgil y protestiadau sydd wedi digwydd mewn gwahanol leoliadau yn ystod y dyddiau diwethaf. Mewn datganiad, dywedodd yr Esgobion:
"Mae’r digwyddiadau ofnadwy yn Southport yn drasiedi cwbl dorcalonnus. Yr ydym yn gweddïo dros bawb sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r weithred erchyll hon. Nid yw o unrhyw gymorth posibl i'r dioddefwyr na'u teuluoedd bod eu colled enbyd yn cael ei defnyddio i sbarduno trais, rhwyg, a braw. Allan o barch at y rhai sydd wedi colli eu hanwyliaid, ac allan o barch at y gwerthoedd yr ydym yn eu harddel fel cymdeithas, rydym yn galw am bwyll, am oddefgarwch ac am ddealltwriaeth. Yr ydym oll wedi gweld canlyniadau ofnadwy trais tuag at y rhai mwyaf agored i niwed, ac wrth inni geisio dod i delerau â’r digwyddiadau brawychus hyn, gweddïwn y bydd rheswm a pharch yn ennill y dydd, ac na fydd neb arall yn cael ei roi mewn perygl nac mewn ofn."